'Rhywbeth at ddant pawb' yn Sioe Sir Benfro eleni
Fe fydd Sioe Sir Benfro yn cynnig "rhywbeth at ddant pawb" eleni wrth i'r trefnwyr addasu cynllun y sioe.
Dros y deuddydd nesaf mae disgwyl i ddegau o filoedd ymweld â'r sioe amaethyddol yn Llwynhelyg, Hwlffordd.
Sioe Sir Benfro yw'r sioe amaethyddol sirol fwyaf Cymru, ac mae Llywyddion Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro yn edrych ymlaen at groesawu pobl i faes y sioe eleni.
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu ein haelodau, cystadleuwyr, masnachwyr, noddwyr a’r gymuned ehangach yn ôl i sioe," meddai Tim a Margaret Johns.
"Pe bai chi o Sir Benfro neu’n ymweld, rydym yn hyderus y byddwch chi’n cael diwrnod gwych.
"Mae sioe eleni llawn atyniadau a gweithgareddau i bob oed. O dda byw o’r ansawdd uchaf a bwyd lleol blasus, i brofiadau cefn gwlad ac adloniant byw - mae yna rywbeth at ddant pawb.”
Mae trefnwyr y sioe eleni wedi ei haddasu, gan gynnwys mwy o stondinau a lleoliad newydd i'r neuadd fwyd.
Hefyd mae'r farchnad wledig wedi dychwelyd, sydd gyda 60 stondin fydd yn cynnwys "trysorau lleol" a chrefftau.
Eleni mae'r sioe wedi creu ardal 'Blas ar Les' newydd, sy'n gwahodd ymwelwyr i "ymlacio ac archwilio iechyd, maeth, therapïau a hunanofal,"
Fe fydd y lleoliad hwnnw yn cynnig cyngor ar iechyd meddwl a chyngor meddygol gan ddoctoriaid hefyd.
I blant a theuluoedd, mae yna flas ar y byd cynhanesyddol trwy sioeau byw ac anturiaethau thema deinosoriaid.
Bydd y sioe yn cael ei chynnal ddydd Mercher a dydd Iau.