Cwmni o Fôn yn anelu at roi cymorth AI i glybiau pêl-droed
Mae cwmni o Fôn sy'n dadansoddi data i glybiau pêl-droed wedi cydweithio gyda Prifysgol Bangor i wella eu dealltwriaeth o ddeallusrwydd artiffisial (AI).
Mae Pelly yn ap sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth i glybiau pêl-droed, gan gynnwys faint o goliau mae chwaraewyr wedi sgorio, taclo, hanes anafiadau a chytundebau, a hynny i gyd ar un platfform.
Mae’r cwmni yn cydweithio â nifer o gwmniau yn Lloegr ac yn rhyngwladol, fel SC Cambuur yn yr Iseldiroedd, a Cesena FC sy’n chwarae yng nghyngrair Serie B yn yr Eidal.
Fe aeth un o sylfaenwyr Pelly, Tomos Owen, 25, o Benllech ar Ynys Môn ati i ddatblygu’r platfform tra’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Pelly bellach yn gweithredu o M-SParc, parc gwyddoniaeth y Brifysgol yng Ngaerwen, ac mae Tomos a'i gyd-sylfaenwyr Iwan Pritchard o Amlwch a Stephen Hickingbotham o Coventry, wedi bod yn cydweithio â Dr Gavin Lawrence, uwch ddarlithydd mewn datblygu talent ac arbenigedd ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Tomos: “Gawson ni sawl sgwrs efo Gavin yn sôn am sut fasa Pelly yn gallu defnyddio techneg dealltwriaeth artiffisial.
"Doedd gan neb yn Pelly arbenigedd yn y maes, ac mae o’n rywbeth all wella ein busnes ni. Mae cynnig AI yn rhoi mwy o wybodaeth i’n defnyddwyr ni allu ffeindio gwybodaeth yn haws, ac yn fwy effeithiol."
'Cymorth'
Wrth edrych at y dyfodol, mae'r cwmni yn gobeithio cydweithio â chlybiau yng Nghymru i helpu'r gêm i dyfu a datblygu yn y wlad.
Y gobaith yw y bydd dysgu sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol am eu helpu i ganfod rhagor o gleintiaid y tu hwnt i Gymru, hefyd.
Fe gafodd y prosiect gefnogaeth ychwanegol drwy Gynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi Prifysgol Bangor, sy'n rhoi mynediad i fusnesau at arbenigedd academaidd.
Mae'r prosiect yn cynnig 5-8 diwrnod o gefnogaeth er mwyn datblygu sgiliau staff.
Ychwanegodd Dr Gavin Lawrence, o Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon y brifysgol, a fu'n cydweithio gyda tîm Pelly mai'r nod oedd "rhoi cymorth iddyn nhw archwilio ac integreiddio potensial AI o fewn eu platfform canoli data penodol i bêl-droed".
"Gan dynnu ar fy ymchwil academaidd mewn datblygu talent ac arbenigedd, a fy MBA mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, roedd ein dull wedi'i seilio ar gyflawni effaith yn y byd go iawn a chefnogi twf busnes cynaliadwy," meddai.
"Roedd yn golygu dechrau o'r gwaelod i fyny - cynnal 'archwiliad' data trylwyr i fapio cwmpas, ansawdd a defnyddioldeb setiau data presennol, gan nodi cryfderau, gwendidau a chyfleoedd yn y ffordd yr oedd data yn cael ei gasglu, ei storio a'i integreiddio."