Trafodaethau Washington i barhau wedi i Zelensky gytuno i gwrdd â Putin
Mae Syr Keir Starmer yn dweud y bydd y gwaith i sicrhau diogelwch Wcráin ac Ewrop yn cychwyn ddydd Mawrth ar ôl cyfarfod rhwng arweinwyr Ewrop a Donald Trump yn y Tŷ Gwyn nos Lun.
Fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau groesawu nifer o arweinwyr Ewrop i Washington ddydd Llun er mwyn trafod y rhyfel yn Wcráin.
Roedd yr arweinwyr yn cynnwys Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer ac Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron.
Yn dilyn cyfarfod "positif", fe ddywedodd Donald Trump y bydd yn arwain y ffordd ar gyfer trafodaethau tair ffordd rhwng arweinwyr Wcráin, Rwsia a'r Unol Daleithiau.
Wedi'r trafodaethau, fe wnaeth Mr Trump gynnal galwad ffôn 40 munud gydag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, i gael sgwrs "onest ac adeiladol iawn", yn ôl un o swyddogion y Kremlin, Yuri Ushakov.
Dywedodd Syr Keir Starmer y byddai trafodaethau gydag America dros sicrhau diogelwch Wcráin a gwledydd Ewrop yn parhau dydd Mawrth.
"Fe fyddwn nawr yn gweithio gyda'r UDA ar sicrhau'r gwarantau diogelwch," dywedodd yn Washington nos Lun.
"Rydym wedi rhoi'r cyfarwyddyd i'n timau, mae rhai yn cyrraedd yfory i ddechrau gwaith manwl arnyn nhw."
Nod sicrhau gwarantau oedd i "tawelu meddyliau pobl yn Ewrop, yn Wcráin, ac yn enwedig yn y Deyrnas Unedig."
'Dod a'r rhyfel i ben'
Wrth eistedd ochr yn ochr â Mr Zelensky yn y Tŷ Gwyn nos Lun, dywedodd Mr Trump y byddai'n ffonio Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn dilyn y trafodaethau.
"Rwy'n credu os bydd popeth yn gweithio allan yn dda heddiw, bydd gennym drilat," meddai Arlywydd yr Unol Daleithiau.
"Ac rwy'n credu y bydd siawns rhesymol o ddod â'r rhyfel i ben pan wnawn ni hynny."
Ychwanegodd yn ddiweddarach: "Os nad oes gennym drilat, yna mae'r ymladd yn parhau."
Daw sylwadau Mr Trump ar ôl iddo gyfarfod â Mr Putin ddydd Gwener diwethaf yn Alaska.
Dywedodd Mr Zelensky fod ei drafodaethau gyda Mr Trump wedi bod yn "dda iawn".
"Rydym yn hapus iawn gyda’r arlywydd bod yr holl arweinwyr yma a bod diogelwch yn Wcráin yn dibynnu ar yr Unol Daleithiau ac arnoch chi ac ar yr arweinwyr hynny sydd gyda ni yn ein calonnau," meddai Mr Zelensky.
Ychwanegodd Mr Zelensky y byddai Mr Trump yn "ceisio" trefnu cyfarfod tair ffordd ac y byddai Wcráin yn hapus pe bai’n mynychu.
Dywedodd Syr Keir Starmer ei bod yn ymddangos mai trafodaethau tair ffordd yw'r "cam nesaf synhwyrol" tuag at ddatrys y rhyfel.
"Rwyf hefyd yn teimlo y gallwn wneud cynnydd gwirioneddol tuag at ganlyniad cyfiawn a pharhaol," meddai Syr Keir wrth Mr Trump.
"Yn amlwg, mae'n rhaid i hynny gynnwys Wcráin ac mae cyfarfod tair ochr yn ymddangos yn gam nesaf synhwyrol.
"Felly, diolch i chi am fod yn barod i fwrw ymlaen â hynny."
'Rhaid sicrhau heddwch parhaol'
Yn ystod y trafodaethau ddydd Llun, fe gafodd Mr Trump ei holi os fyddai Wcráin yn cael "amddiffyniad tebyg i NATO".
Dywedodd Mr Trump: "Dydw i ddim yn gwybod a ydych chi’n ei ddiffinio felly, ond tebyg i NATO? Hynny yw, rydyn ni’n mynd i roi, mae gennym ni bobl yn aros mewn ystafell arall ar hyn o bryd, maen nhw i gyd yma, o Ewrop.
"Y bobl fwyaf yn Ewrop. Ac maen nhw eisiau rhoi amddiffyniad, maen nhw’n teimlo’n gryf iawn amdano, a byddwn ni’n eu helpu nhw gyda hynny."
Roedd cennad Mr Trump, Steve Witkoff, wedi awgrymu y gallai'r Unol Daleithiau gynnig mesurau tebyg i ddarpariaeth amddiffyn erthygl pump NATO a hynny heb i Wcráin ymuno â'r gynghrair.
Fe wnaeth Arlywydd Wcráin wisgo crys du a siaced ddu i'r cyfarfod yn y Tŷ Gwyn.
Roedd yn ymddangos bod ei wisg wedi cythruddo Mr Trump yn ystod cyfarfod blaenorol ym mis Chwefror, pan oedd yn gwisgo crys polo du.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau ddydd Llun: "Mae wedi gwisgo'n dda iawn heddiw."
Roedd Syr Keir, a oedd wedi cyfarfod â Mr Zelensky a nifer o arweinwyr eraill Ewrop ddydd Llun cyn cyrraedd y Tŷ Gwyn, wedi dweud yn gynharach mewn fideo ar blatfform X: "Mae pawb eisiau iddo ddod i ben, yn enwedig yr Wcrainiaid.
"Ond mae’n rhaid i ni wneud hyn yn iawn. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod heddwch, ei fod yn heddwch parhaol a’i fod yn deg ac yn gyfiawn.
"Dyna pam rwy’n teithio i Washington gydag arweinwyr eraill Ewrop i drafod hyn wyneb yn wyneb â’r Arlywydd Trump a’r Arlywydd Zelensky, oherwydd mae er budd pawb, mae er budd y DU ein bod yn gwneud hyn yn iawn."
Llun: Reuters