Teyrnged teulu i 'ferch annwyl' ar ôl llofruddiaeth honedig yng Nghaerdydd

Nirodha Niwunhella

Mae teyrnged wedi ei rhoi i fenyw 32 oed y mae'r heddlu yn ymchwilio i'w llofruddiaeth honedig yng Nghaerdydd.

Fe gafodd swyddogion eu galw i ardal South Morgan Place yng Nglan yr Afon (Riverside) fore Iau wedi adroddiadau fod menyw wedi'i hanafu yn ddifrifol. 

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni Niwunhella, a oedd yn cael ei galw yn Nirodha, yn y fan a'r lle.

Fe gafodd dyn 37 oed, yr oedd y fenyw yn ei adnabod, ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth ar Heol Seawall ychydig yn ddiweddarach.

Mae'n parhau yn y ddalfa wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.

'Merch annwyl'

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Rydym yn cofio Nirodha fel merch annwyl, aelod o'r teulu a ffrind annwyl i nifer.

"Bydd Nirodha yn cael ei chofio am byth gyda heddwch, cariad a diolchgarwch.

"Fe wnaeth ei charedigrwydd a'i chynhesrwydd gyffwrdd â nifer o fywydau a bydd ei hatgof yn parhau i'n hysbrydoli. 

"Er i'w bywyd ddod i ben yn rhy fuan, bydd y cariad a rannodd bob amser yn aros gyda ni. Gorffwysa mewn heddwch, angel."

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, DCI Matthew Davies: "Mae fy nghydymdeimlad diffuant gyda theulu, ffrindiau ac anwyliaid Nirodha wrth iddynt ddod i delerau â'r golled drasig hon.

"Mae gennym swyddogion wedi'u hyfforddi'n arbennig i gefnogi ei hanwyliaid ar hyn o bryd ac yn gofyn am barchu eu preifatrwydd.

"Rwy'n parhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ac sydd heb siarad â swyddogion eto i ddod ymlaen a chefnogi ein hymchwiliad."

Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am Ford Fiesta llwyd ger ardaloedd South Morgan Place neu Heol Seawall rhwng 07.30 a 08.30, gan gynnwys Stryd Wellington, Ffordd Clare, Ffordd Penarth a Stryd Tyndall Ddwyreiniol.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.