'Torri tir newydd yng Nghymru' drwy wahardd hysbysebion am fwyd sothach

Bwyd afiach

Mae cyngor sir wedi cyhoeddi ei fwriad i fod y cyntaf yng Nghymru i wahardd hysbysebion ar gyfer bwyd sothach mewn mannau cyhoeddus.

Fe fydd cynghorwyr Bro Morgannwg yn trafod y cynnig i wahardd bwydydd sy’n uchel mewn braster, siwgr a halen rhag cael eu hysbysebu mewn arhosfeydd bysiau neu ar fyrddau hysbysebu wrth hewlydd cyhoeddus.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morganwg, y Cynghorydd Lis Burnett ei fod yn rhan o gynllun pum mlynedd newydd Bro 2030.

Yn ogystal â chynyddu cyfleoedd economaidd ac addysgol roedden nhw am “gymryd camau i wella iechyd a lles ein trigolion ac annog ffyrdd o fyw mwy egnïol”.

“Mae tystiolaeth glir bod hysbysebu o’r fath yn cyfrannu at bobl yn prynu ac yn bwyta bwydydd a diodydd sothach, yn enwedig plant,” meddai.

“Mae hynny yn ei dro yn arwain at gyfraddau uwch o ordewdra a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â diet.

“Mae ymchwil hefyd wedi dangos mai’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yw’r rhai sy’n cael eu heffeithio waethaf gan fod hysbysebion yn aml yn cael eu targedu’n benodol at bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.

“Rwy’n falch bod y Fro yn torri tir newydd yng Nghymru yn y maes hwn. Rydym am osod safon i eraill ei dilyn ledled Cymru a’r DU yn ehangach.”

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Claire Beynon ei bod hi “wrth ei bodd” gyda’r cynnig.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod hysbysebu ar ein strydoedd yn dylanwadu ar yr hyn ydan ni’n ei brynu a'r hyn ydyn ni’n ei fwyta,” meddai.

“Bydd newid yr amgylchedd bwyd trwy newid y dirwedd hysbysebu yn helpu i gefnogi a galluogi cyfleoedd ar gyfer bwyd iach.”

Bydd yr argymhelliad i gyfyngu ar hysbysebu bwydydd sydd wedi'u categoreiddio fel Uchel mewn Braster, Siwgr a Halen yn ymddangos mewn adroddiad i'w ystyried gan Gabinet y Cyngor fis nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.