Is-etholiad yng Nghaerffili erbyn canol Tachwedd wedi marwolaeth Hefin David

Hefin David.jpg

Mae Llywydd y Senedd wedi cyhoeddi y bydd isetholiad i'r Senedd yng Nghaerffili erbyn canol mis Tachwedd ar ôl marwolaeth Hefin David AS.

Dywedodd Elin Jones y bydd datganiad yn cadarnhau dyddiad yr isetholiad yn cael ei wneud “maes o law”. 

Daeth y sedd yn wag ar 12 Awst 2025, meddai, ac mae’n ofynnol cynnal isetholiad o fewn tri mis o hynny.

Bu farw Hefin David, oedd wedi cynrychioli Caerffili ers 2016, ar 12 Awst yn 47 oed. Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus meddai Heddlu Gwent.

Mewn datganiad dywedodd Elin Jones: “Yn unol â'm dyletswydd o dan Reol Sefydlog 1.9 ac Adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rwy'n datgan bod sedd Caerffili wedi dod yn wag ar 12 Awst 2025, yn dilyn marwolaeth Hefin David, yr Aelod o Senedd Cymru a etholwyd ar gyfer yr etholaeth seneddol honno.”

Cyn cael ei ethol i’r Senedd, roedd Hefin David yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac roedd ganddo brofiad o weithio ac addysgu yn yr Almaen, gwlad Groeg, India a Tsieina.

Cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn isetholiad ym mis Mawrth 2007 a bu’n gwasanaethu yno tan iddo roi’r gorau i’r rôl yn etholiadau llywodraeth leol 2017. 

Wrth roi teyrnged iddo ar ddiwrnod ei farwolaeth, dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan: “Rydym yn hynod drist o glywed am farwolaeth sydyn Hefin. Mae ein meddyliau gyda’i deulu yn yr amser ofnadwy hwn.

“Roedd Hefin yn aelod annwyl iawn o deulu Llafur. Gwasanaethodd Caerffili fel cynghorydd ac Aelod o’r Senedd gyda balchder ac angerdd.

“Roedd yn wleidydd rhagorol, yn gynnes ac yn frwdfrydig ac yn gyfathrebwr gwych – yn enwedig ar ran ei etholwyr. Bydd colled fawr ar ei ôl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.