Gaza: Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin yn galw am alw San Steffan yn ôl
Mae arweinwyr rhai o bleidiau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Keir Starmer yn galw arno i adalw Senedd San Steffan i drafod “trychineb” Gaza.
Mae’r llythyr yn galw am osod “sancsiynau yn syth” ar Israel a “gweithredu rŵan” i ddod â’r rhyfel i ben.
Mae’r llythyr wedi ei arwyddo gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ac arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts.
Mae hefyd wedi’i lofnodi gan Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O’Neill, arweinydd yr SNP yn San Steffan, Stephen Flynn, Alistair Carmichael o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yr Alban, a Lorna Slater o’r Gwyrddion Albanaidd, ymysg eraill.
Mae’r llythyr yn dweud bod y “drychineb dyngarol sy’n datblygu yn Gaza wedi’i greu gan ddyn ac fe fyddai modd ei osgoi”.
“Nid yn unig y caiff ei nodweddu gan fomio a dinistrio di-baid, ond gan greu’r amodau ar gyfer llwgu pobl yn fwriadol,” meddai.
“Rhwystro bwyd, dŵr a chyflenwadau meddygol sydd wedi achosi’r hyn y mae asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig ac arbenigwyr dyngarol yn ei ddisgrifio fel newyn a wnaed gan ddyn.”
Mae’r llythyr yn galw ar Syr Keir i alw’r Senedd yn ôl a gosod sancsiynau ar Israel ac i “gefnogi cadoediad i amddiffyn sifiliaid a sicrhau heddwch cyfiawn a pharhaol”.
Mae hefyd yn galw am ddiwedd ar unwaith ar werthu arfau i Israel, cefnogaeth i “ymchwiliadau rhyngwladol annibynnol i droseddau rhyfel honedig, troseddau yn erbyn dynoliaeth, a hil-laddiad yn Gaza”.
Mae’r llythyr hefyd yn dweud y dylai’r DU ddefnyddio ei “ddylanwad diplomyddol i bwyso am gyflenwi bwyd, dŵr, meddyginiaeth a chymorth dyngarol heb ei rwystro i bobl Gaza”.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd y DU yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd ym mis Medi oni bai bod Israel yn bodloni rhai amodau, gan gynnwys cytuno i gadoediad yn Gaza ac adfywio'r posibilrwydd o ddatrysiad dwy wladwriaeth.