Mam milwr a gafodd ei ddarganfod yn farw yn galw ar ddynion i ofyn am gymorth
Mae mam i filwr o Wynedd a gafodd ei ddarganfod yn farw yn galw ar ddynion sy'n dioddef i ofyn am gymorth.
Cafodd Stephen Hughes, oedd yn 25 oed ac yn byw yn Llanberis ei ddarganfod yn farw yn Afon Menai ar ôl mynd ar goll.
Roedd Mr Hughes yn un o sylfaenwyr Lads Advice, sef grŵp oedd yn cynnig cefnogaeth a chymorth i ddynion gyda'i hiechyd meddwl.
Mewn neges a y cyfryngau cymdeithasol mae ei fam, Fiona Fairclough, wedi galw ar ddynion i siarad gyda rhywun os ydyn nhw'n dioddef.
Dywedodd bod nifer o gyn-filwyr wedi ymuno â Lads Advice ers i Stephen farw.
"Diolch am yr holl gymorth yn ystod y chwilio am fy mab, y Corporal Stephen Hughes," meddai.
"Diolch hefyd am y gefnogaeth a ddangoswyd a'r negeseuon a anfonwyd yn dilyn darganfod ei farwolaeth.
"Mae hi wedi dod i'm sylw, ers marwolaeth Steve, fod nifer fawr o gyn-filwyr wedi ymuno â Lads Advice - rwy'n cyfarch pob un ohonoch ac yn dathlu eich dewrder wrth gymryd y cam cyntaf hwnnw wrth estyn allan a siarad.
"Mae hynny'n cymryd dipyn o ddewrder. Rwy'n falch ohonoch chi, ac rwy'n gwybod y byddai Steve wedi bod yn falch hefyd."
Ychwanegodd: "Rwyf hefyd wedi cael gwybod bod rhai ohonoch wedi cael eich effeithio'n fawr gan farwolaeth Steve. Rwy'n erfyn arnoch i siarad â'ch gilydd, mae problem sydd yn cael ei rannu yn broblem wedi'i haneru. Plîs, siaradwch â'ch gilydd.
"Diolch i chi gyd unwaith eto am y teyrngedau, y cariad a chefnogaeth. Plîs siaradwch! Ac fel y byddai Steve yn ei ddweud yn aml - Byddwch yn garedig."
Gorffennodd ei neges yn dweud "gan Fiona, mam sydd wedi ei thorri".
'Calonnau wedi torri'
Mae sawl teyrnged wedi ei roi i Stephen Hughes ers iddo farw.
Dywedodd Catrawd Y Cymry Brenhinol mewn datganiad: "Gyda chalom drom y mae'n rhaid i Fataliwn Cyntaf Y Cymry Brenhinol gadarnhau colled drasig Corporal Stephen Hughes, 25.
"Roedd yn aelod yr oedd pawb yn ei garu o Blatŵn y Mortar ac mae'r golled yn cael ei theimlo yn fawr o fewn y Bataliwn a'r teulu Catrodol yn ehangach."
Mewn teyrnged iddo hefyd, dywedodd y grŵp Lads Advice: "Pan y gwnaethom ni glywed gyntaf ei fod ar goll, fe wnaeth cymaint ohonoch chi geisio helpu - gan rannu negeseuon, cysylltu â phobl, gwneud popeth a oedd yn bosib i helpu. Mae'r gofal yna yn dweud y cyfan o ran pa mor bwysig oedd ef.
"Roedd yn un o sylfaenwyr y tîm ac mae'n gadael bwlch enfawr. Mae'n calonnau ni wedi eu torri.
"Cwsg yn dawel, Steve. Roeddet ti'n un o'r dynion mwyaf caredig ac annwyl. Fe fydd colled mawr ar dy ôl."
Fe ddywedodd Llu Cadéts Clwyd a Gwynedd: "Gyda thristwch mawr yr ydym ni'n dysgu o farwolaeth cyn-gadét Llanberis a Milwr Y Cymry Brenhinol, Stephen Hughes.
"Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei deulu, ffrindiau a'i gyd-weithwyr yn ystod y cyfnod anodd yma.
"Fe fydd ei wasanaeth a'i ymroddiad yn cael ei gofio gyda pharch a gwerthfawrogiad enfawr."
Cefnogaeth
Am 20:30 ddydd Mawrth 12 Awst, bu Heddlu'r Gogledd yn chwilio am Mr Hughes wedi iddo fynd ar goll.
Fe gadarnhaodd yr heddlu fod corff wedi ei godi o Afon Menai ychydig wedi 23:30 ar yr un noson.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall ar y pryd: "Mae fy meddyliau efo teulu Stephen, sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion.
"Mae’r crwner wedi cael gwybod ac nid ydym yn credu bod amgylchiadau amheus."
Os ydych wedi cael eich heffeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl, mae modd dod o hyd i gymorth yn y ddolen yma: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/