
Chwiorydd o Wcráin yn agor caffi gyda Chymraes roddodd lety iddyn nhw
Mae chwiorydd o Wcráin wnaeth symud i Gymru er mwyn dianc rhag y rhyfel yno wedi agor caffi â'r ddynes a gynigiodd lety iddyn nhw.
Cyrhaeddodd Hanna a Liudmyla Famtsova Gymru o Wcráin dair blynedd yn ôl.
Fe gafodd y ddwy eu noddi gan ddynes o'r enw Sian Lewis, gweithiwr y Gwasanaeth Iechyd oedd wedi ymddeol.
Mae noddwyr i bobl o Wcráin yn cynnig tŷ neu ystafell yn eu tai i bobl o Wcráin oedd yn ffoi rhag y rhyfel gyda Rwsia.
Erbyn hyn mae Hanna, ei merch Daria, Liudmyla, ei merch Polina, a Sian wedi agor caffi o'r enw Coffi Kava yng ngorsaf drenau Caerffili.
Kava yw'r gair Wcrainaidd am goffi ac mae'r caffi yn "ddathliad o ddiwylliant, cysylltiad â balchder lleol."
Dywedodd Sian: "Mi wnes i gwrdd â nhw ym mis Mai 2022 ar ôl i'r rhyfel ddechrau yn Wcráin.
"Fe wnaethon nhw ffoi i'r DU ac mi wnes i eu noddi nhw bryd hynny.
"Tua blwyddyn yn ôl fe ddechreuon ni drafod y posibilrwydd y gallen nhw agor eu busnes eu hunain yn y DU.
"Maen nhw'n caru pobi. Maen nhw wedi bod yn pobi gartref ers blynyddoedd, ac roedden nhw wedi ystyried agor popty yn Wcrain."

Dywedodd Liudmyla Famtsova bod ei chwaer Hanna wedi dechrau pobi yn 13 oed.
"Hi oedd y pobydd cyntaf yn ein teulu ni," meddai.
"Roedd hwn yn syniad teuluol o flynyddoedd yn ôl ond diolch i Sian fe ddaeth yn fyw yn fan hyn."
Dywedodd y chwiorydd bod agor y coffi yn "gwireddu breuddwyd iddynt".
"Mae’r wythnosau cyntaf wedi bod yn hynod gadarnhaol - rydym wedi teimlo ein bod wedi cael croeso cynnes gan deithwyr a thrigolion," meddai.
"Mae eu cynhesrwydd a’u brwdfrydedd wedi gwneud ymgartrefu’n llawenydd pur, ac mae wedi bod yn anhygoel gweld pobl yn croesawu’r hyn yr ydym yn ei gynnig.
"Rydym yn gyffrous i barhau i dyfu a gwasanaethu’r gymuned fywiog hon.”
Prif lun: Polina Famtsova, Liudmyla Famtsova, Daria Spivaliuk, a Hanna Famtsova, with Siân Lewis.