Dyn o Abertawe yn pledio'n euog i lofruddiaeth menyw 47 oed
Mae dyn o Abertawe wedi pledio'n euog i lofruddiaeth menyw 47 mlwydd oed yn ei chartref.
Plediodd Matthew Battenbough, sy'n 33 oed, yn euog i lofruddiaeth Leanne Williams mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.
Cafodd Leanne Williams, 47 oed ei darganfod yn farw yn ei chartref ar Stryd Gomer, Townhill ar 27 Chwefror eleni.
Roedd archwiliad post-mortem wedi darganfod bod ei hanafiadau yn gyson â chamdriniaeth.
Bydd Matthew Battenbough yn cael ei ddedfrydu ar 26 Medi.
Dywedodd yr Arolygydd Ditectif David Butt: “Roedd y newyddion am farwolaeth Leanne yn drychinebus i’w theulu ac i gymunedau ehangach Townhill ac Abertawe.
“Mae teulu Leanne yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.
"Gobeithiwn y bydd ple euog Matthew Battenbough yn cynnig rhywfaint o ryddhad iddyn nhw wedi cyfnod trawmatig.”