Mam yn condemnio ymosodiad ‘creulon’ dyn a saethodd ei merch naw oed
Mae mam wedi condemnio ymosodiad “annynol” dyn wnaeth saethu ei merch naw oed yn ei phen.
Cafwyd Javon Riley, 33 oed, o Tottenham yn euog o saethu'r ferch wrth iddi eistedd ym mwyty Evin ar stryd fawr Kingsland, Hackney ar 29 Mai'r llynedd.
Fe wnaeth y ferch, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol, dreulio tri mis yn yr ysbyty ac mae’n parhau i ddioddef problemau corfforol a gwybyddol.
Nid hi oedd targed yr ymosodiad.
Roedd y plentyn ifanc wedi ei dal yng nghanol ffrae waedlyd rhwng gangiau Twrcaidd yng ngogledd Llundain.
Ond dywedodd ei mam nad oedd yr hyn ddigwyddodd “yn ddamwain”.
“Hyd yn oed os nad ein merch oedd y targed yr oedd wedi ei fwriadu, roedd y rhai oedd yn gyfrifol yn dal i geisio cymryd bywydau,” meddai.
“Roedd yn greulon a bwystfilaidd.”
Clywodd llys yr Old Bailey fod tri dyn a oedd yn eistedd wrth fwrdd gerllaw hefyd wedi cael eu taro gan fwledi a'u hanafu.
Cafwyd Javon Riley yn euog o geisio llofruddio Mustafa Kiziltan, 35, Kenan Aydogdu, 45 a Nasser Ali, 44, yn ogystal ag achosi niwed difrifol bwriadol i’r ferch naw oed.
Clywodd y llys dystiolaeth bod y tri dyn a anafwyd yn gysylltiedig â gang troseddol Hackney Turks, a oedd mewn cystadleuaeth â'r Tottenham Turks, gang yr oedd gan Riley gysylltiadau â nhw.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 12 Medi.
Mewn datganiad, dywedodd mam y ferch: “Mewn un eiliad, rhwygwyd y dyfodol yr oeddem wedi’i ddychmygu ar gyfer ein merch i ffwrdd.
“Roedd hi ar un adeg yn blentyn egnïol, anturus - yn llawn symudiad, egni a bywyd.
“Nawr, mae gwendid ar ei hochr chwith yn golygu ei bod hi’n gwylio o’r ymylon, gan fyw gyda phlât titaniwm yn ei phenglog a bwled yn dal yn ei hymennydd.
“Fel rhieni, rydym wedi ein chwalu, yn emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ariannol.
“Mae pob dydd yn dod â heriau newydd, gan gynnwys y creithiau emosiynol a meddyliol na ellir eu gweld.
“Mae’r byd yr oeddem ar un adeg yn credu ei fod yn ddiogel i’n plentyn bellach yn teimlo’n frawychus ac yn ansicr.”