Dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yng Nghaernarfon
Mae dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yng Nghaernarfon dros y penwythnos.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ar Lôn y Bryn yn y dref toc wedi 16.00 ddydd Sadwrn.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys i ddiffodd y tân, cafodd dyn ei ddarganfod yn farw yn yr adeilad.
Nid yw'r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Burrow: "Mae ymchwiliad ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi’i lansio i sefydlu achos y tân, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.
"Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymholiadau gysylltu â’r heddlu os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, gan ddyfynnu’r cyfeirnod C127317."