
Ani Glass wedi newid ei sioeau byw oherwydd 'dylanwad' ei phlentyn byddar
Ani Glass wedi newid ei sioeau byw oherwydd 'dylanwad' ei phlentyn byddar
Mae’r gantores Ani Glass wedi dweud ei bod hi wedi “newid” y ffordd y bydd hi’n gwneud ei sioeau byw ers iddi gael ei phlentyn sydd yn fyddar.
Rhoddodd y gantores, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Ani Saunders, enedigaeth i'w merch fach ym mis Chwefror y llynedd – a hynny yn dilyn cyfnod heriol yn ei bywyd.
Fis Chwefror 2020, fe gafodd Ani wybod bod ganddi diwmor ar yr ymennydd. Er nad yw’r tiwmor yn ganseraidd roedd y newyddion yn “ergyd” iddi, meddai.
Bellach ar drothwy rhyddhau ei halbwm newydd, Phantasmagoria, mae’n dweud bod profiadau’r pum mlynedd ddiwethaf wedi dylanwadu’n fawr ar ei gwaith.
A hithau yn y broses o ddysgu iaith arwyddion er mwyn cyfathrebu â'i merch, mae’n gobeithio y gallai cynulleidfa ehangach o bobl fwynhau ei sioeau byw hefyd.
“Mae hi wir ‘di dylanwadu ar ffordd fi’n creu,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
“Mae newydd gael cochlear implant ond mae’n bwysig i ni fod hi yn gallu cyfathrebu mewn gymaint o ffyrdd â sy’n bosib iddi hi felly ni’n dysgu BSL.
“Mae’r defnydd o BSL a sut fi mo'yn cyflwyno y gerddoriaeth mewn sioeau byw wedi newid.
“O’n i’n trio meddwl am beth sy’n fwyaf addas a’r bwriad yw - chi’n gwybod chi’n cael visuals yn y cefn?
“Fi’n mynd i gal geiriau y caneuon a chyfieithiadau yn dod lan ar yr un pryd pan fi’n canu fel y bydd pobl fyddar yn gallu gwybod pa eiriau sy’n cael ei defnyddio a gallu teimlo naws y digwyddiad ar y pryd.”

'Ergyd'
Bydd Ani Glass yn dychwelyd i’r llwyfan fis nesaf wrth iddi gyhoeddi Phantasmagoria ar 26 Medi.
Mae’n dweud bod y gwaith yn seiliedig ar “brosesu” ei chyflwr ac mae'n gobeithio y gallai pobl uniaethu gyda’r themâu yn yr albwm mewn ffordd sydd yn unigryw iddyn nhw.
“Nes i ddarganfod bod gyda fi benign brain tumour, sy’n hollol fine, ond mae dod i ffeindio mas rhywbeth fel ‘na, mae’n ergyd.
“Mae’r themâu o freuddwydio o’r môr a’r symudiad araf yna, o’n i eisiau gallu cyfleu y syniad o jyst ddim cweit teimlo fel bod ti yn y foment ac ar y blaned weithiau… dyna’r nod.
“Yn y pen draw s’dim wir ots beth mae’r artist yn golygu, be’ sy’n bwysig yw beth mae’r pobl sy’n gweld e neu’n clywed e yn teimlo.
“Felly ‘sa hwnna’n hyfryd ‘sa pobl yn gallu ffeindio rhywbeth ynddo fe sy’n helpu nhw.”

'Pwysau'
Er bod cyfnod o bum mlynedd wedi bod ers iddi ryddhau ei halbwm diwethaf, Mirores, mae Ani Glass yn dweud nad yw hi “wedi stopio creu” ers hynny.
Ond mae’n dweud ei bod yn teimlo fel bod yna bwysau i fod yn gynhyrchiol iawn yn y diwydiant ar adegau, a bod hynny’n gallu bod yn anodd iddi.
“Mae ‘na bwysau… a bod e’n gorfod bod yn glou.
“Chi’n gorfod cadw creu cynnwys trwy’r amser a fi jyst ddim y person ‘na, fi ddim yn dda am ‘neud e.
“Mae pobl sy’n gyfforddus yn neud e yn edrych yn dda yn neud e ond os ti’n anghyfforddus ti’n edrych yn sili, a fi’n edrych yn sili os fi’n trio creu cynnwys yn rhy glou.
“Mae’n amlwg, a dyna pam mae ‘di cymryd pum mlynedd.”

Mae wedi cyd gynhyrchu’r albwm newydd gyda’r cynhyrchydd Iwan Morgan, a hynny wedi bod yn broses “rili ffantastig,” meddai.
“Mae’n cymryd lot fel artist i ymddiried yn rhywun gyda dy waith, ond roedd e’n hawdd a naturiol gyda Iwan.”
Wedi iddi ryddhau ei sengl gyntaf o’r un enw â’r albwm, Phantasmagoria, mae hefyd wedi cydweithio gyda’r cyfarwyddwr Lowri Palfrey, y golygydd fideo Aled Victor yn ogystal â’r actores Saran Morgan a wnaeth serennu yn y fideo cerddoriaeth.
Dywedodd Ani: “Mae ‘di bod yn gyfnod hir ers i fi ryddhau Mirores ac mae lot o bethau wedi digwydd fel mae fe yn bywyd.
“Mae’r cyfle i allu rhannu gwaith creadigol a rhannu yr hyn sydd ‘di bod yn gweithio arno ers gymaint o amser yn beth wir exciting i fi a fi ffaelu aros i bobl clywed be’ fi ‘di bod yn gweithio arno.”
Bydd Phantasmagoria yn cael ei rhyddhau ar 26 Medi 2025.