Starmer ac arweinwyr eraill Ewrop i ymuno â Zelensky yng nghyfarfod y Tŷ Gwyn

Starmer a Zelensky

Bydd Syr Keir Starmer a nifer o arweinwyr eraill gwledydd Ewrop yn ymuno ag Arlywydd Wcráin wrth iddo gyfarfod â'r Arlywydd Trump yn y Tŷ Gwyn ddydd Llun. 

Roedd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula Von der Leyen, Canghellor yr Almaen, Friedrich Merz, Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, Arlywydd y Ffindir, Alexander Stubb, Prif Weinidog yr Eidal, Giorgia Melon ac Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Mark Rutte ymlith y cyntaf i gadarnhau y byddan nhw'n ymuno â Mr Zelensky yn Washington DC.

Bydd y cyfarfod yn y Tŷ Gwyn yn cael ei gynnal wedi i rai o arweinwyr Ewrop gynnal cyfarfod drwy gyfrwng fideo brynhawn Sul.   

Roedd Prif Weinidog y DU ac arweinwyr Ffrainc a'r Almaen yn y cyfarfod hwnnw yn ogystal â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula Von der Leyen.

Wedi'r cyfarfod, dywedodd yr Arlywydd Macron o Ffrainc bod y grwp wedi trafod am ychydig mwy na dwy awr, gan ystyried beth fydd eu blaenoriaethau wrth iddyn nhw gynnal trafodaethau gyda'r Arlywydd Trump ddydd Llun  

Daw'r datganiad o undod gan yr arweinwyr Ewropeaidd, wrth iddi ymddangos fod yr Arlywydd Trump yn awyddus i ddarbwyllo'r Arlywydd Zelensky i ildio rhannau o dir Wcráin i Rwsia. 

Cafodd cyfarfod ei gynnal rhwng Donald Trump ac Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin nos Wener yn Anchorage, Alaska, er mwyn ceisio dod â'r rhyfel i ben. 

Chafodd Mr Zelensky ddim gwahoddiad i'r cyfarfod hwnnw.    

Ildio tir

Yn ystod y trafodaethau hynny, mae rhai ffynonellau yn honni bod Mr Putin wedi mynnu rheolaeth lawn ar ranbarthau Donetsk a Luhansk yn Wcráin, wrth drafod yr amodau i ddod â'r rhyfel i ben. Mae milwyr Rwsia wedi meddiannu'r rhanbarthau hynny yn ystod y rhyfel. 

Yn gyfnewid am hynny, byddai Vladimir Putin yn fodlon ildio tiriogaethau eraill yn Wcráin sydd ar hyn o bryd ym meddiant milwyr Rwsia, yn ôl adroddiadau.  

Mae rhai ffynonellau o'r farn bod Mr Trump yn ystyried cefnogi'r cynllun hwnnw, a bydd yn siarad â Mr Zelensky am hynny ddydd Llun yn ystod eu cyfarfod.

Wrth benderfynu ymuno ag Arlywydd Wcráin yn Washington ddydd Llun, mae'n bosibl bod yr arweinwyr Ewropeiadd yn pryderu am y cyfarfod ddiwedd Chwefror, pan ymwelodd Mr Zelensky â'r Tŷ Gwyn ddiwethaf. 

Dwysáu wnaeth y tensiynau bryd hynny rhwng America ac Wcráin gyda Donald Trump yn tynnu ei gefnogaeth filwrol yn ôl am gyfnod.

Ers cyfarfod â Vladimir Putin nos Wener, mae'n ymddangos fod safbwynt Mr Trump wedi newid ar ffyrdd o ddod â'r rhyfel i ben. 

Mae e wedi awgrymu ei fod yn awyddus i geisio sicrhau cytundeb heddwch yn syth yn hytrach na chytuno ar amodau cadoediad yn gyntaf.  

Mae'n ymddangos mai dyna yw dymuniad Arlywydd Rwsia hefyd. 

Wedi'r cyhoeddiad y bydd rhai o arweinwyr Ewrop yn teithio i Washington, mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula Von der Leyen wedi pwysleisio bod angen i unrhyw gytundeb heddwch gynnig sicrwydd diogelwch i Wcráin ac Ewrop. 

Llun: Jordan Pettitt/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.