Arestio dyn ar amheuaeth o drywanu dyn arall yn Aberfan
Mae dyn 45 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ar ol ôl i ddyn arall gael ei drywanu yn Aberfan ddydd Sadwrn.
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru bod dyn 40 oed wedi cael ei gludo i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful gydag anafiadau “difrifol.”
Dyw meddygon ddim yn credu bod ei fywyd mewn perygl, yn ôl yr heddlu.
Mae'r dyn 45 oed sydd wedi ei arestio yn y ddalfa, ac roedd y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd, yn ôl y llu.
Cafodd Ffordd Aberfan, lle digwyddodd yr ymosodiad honedig, ei chau am gyfnod ddydd Sadwrn.
Mae’r ffordd bellach wedi ei hail agor ond mae swyddogion yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth iddyn nhw gynnal eu hymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jonathan Allen o Heddlu’r De bod y digwyddiad wedi “achosi cryn bryder yn y gymuned leol.”
“Ffordd Aberfan yw’r brif ffordd drwy Aberfan a hoffwn apelio ar bobl oedd yn teithio trwy’r dref rhwng 15.30 a 16.00 i wirio delweddau dashcam am ddelweddau perthnasol.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth gysylltu â'r heddlu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500263219.