Ardaloedd yn Sir y Fflint yn parhau heb ddŵr

Pibell dowry

Mae cwsmeriaid mewn rhai ardaloedd yn Sir y Fflint yn dal i fod heb gyflenwad dŵr ar ôl i bibell fyrstio ym Mrychdyn fwy nag wythnos yn ôl. 

Yn hwyr brynhawn Sadwrn, cyhoeddodd Dŵr Cymru bod y cyflenwad dwr yn ail-lenwi yn raddol ar ôl i’r bibell ddŵr cael ei thrwsio a'u bod yn rhagweld y byddai cam olaf y broses ail lenwi wedi ei chwblhau erbyn prynhawn Sul. 

Mewn diweddariad brynhawn Sul, mae'r cwmni'n dweud bod y mwyafrif bellach â chyflenwad dŵr, ond bod rhai cwsmeriaid yn dal i fod hebddo yn ardaloedd Cei Connah a Mancot. 

Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn “disgwyl i'r sefyllfa wella'r prynhawn yma.” 

Mae’r trafferthion wedi codi ar ôl bibell ddŵr fyrstio ym Mrychdyn, yn dilyn gwaith atgyweirio dros dro, ddydd Sadwrn 9 Awst. cc er i'r bibell gael ei thrwsio bryd hynny, dychwelodd y broblem.

Yn y datganiad ddydd Sul, dywedodd Dŵr Cymru y gallai dŵr rhai cwsmeriaid fod yn lliw gwahanol i’r arfer am gyfnod. 

“Rydym yn fflysio'r system a gall cwsmeriaid hefyd agor eu tapiau am gyfnod byr i'w helpu i glirio.

“Hoffem ddiolch i'n holl gwsmeriaid am eu hamynedd ac ymddiheuro unwaith eto am yr anghyfleustra a achoswyd," meddai'r datganiad.

Mae’r problemau wedi effeithio ar ardaloedd sy'n cynnwys: Y Fflint, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llannerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.  Roedd miloedd o gwsmeriaid heb ddŵr ddydd Gwener diwethaf.  

Gorsafoedd dŵr potel 

Bydd gorsafoedd dŵr potel yn parhau ar agor ym Mhafiliwn Jade Jones, Y Fflint, maes parcio a theithio Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a maes parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.

Ychwanegodd Dŵr Cymru byddan nhw'n parhau i gefnogi eu cwsmeriaid bregus ar y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth yn uniongyrchol.

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer cyflenwadau cyn gynted â phosibl ac ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achoswyd gennym," meddai'r datganiad.

Bydd cwsmeriaid domestig yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael taliad awtomatig o £75 am bob 12 awr, a byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm.

Cafodd dwy o gemau'r Cymru Premier JD eu gohirio y penwythnos hwn, oherwydd diffyg cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint.

Roedd Cei Connah i fod i herio'r Bala, a'r Fflint i fod i wynebu Hwlffordd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.