Môn FM: Gorsafoedd radio cymunedol â rôl bwysig i 'feithrin yr iaith'

Môn FM: Gorsafoedd radio cymunedol â rôl bwysig i 'feithrin yr iaith'

Mae gan orsafoedd radio cymunedol "rôl bwysig" i'w chwarae wrth geisio gwireddu'r uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ôl gwirfoddolwyr yng ngorsaf Môn FM.

Ers 2012, mae Môn FM wedi bod yn darlledu ar draws y sir a bellach mae’r tonfeddi yn ymestyn ar draws arfordir gogledd Cymru.

Mae bron i 70 o bobl yn gwirfoddoli i'r orsaf – o gyflwyno rhaglenni, i staff technegol, aelodau pwyllgor llywio'r orsaf a phobl sydd yn codi arian er mwyn cadw’r orsaf ar yr awyr 24 awr y dydd, o’r stiwdio yn Llangefni.

Mae’r orsaf wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda sawl wyneb adnabyddus yn ymuno â rhai sydd wedi bod gyda'r orsaf ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys cyn gyflwynydd Champion FM a Capital Cymru, Kev ‘Bach’ Williams, y band Cordia, yr actor Emyr Gibson a phrif leisydd Fleur de Lys, Rhys Edwards. 

Image
Môn FM
Fe gafodd Môn FM ei sefydlu yn 2012, ac fe gafodd ei lansio'n swyddogol ar y tonfeddi FM ym mis Awst 2014

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Cadeirydd yr orsaf, Tomos Dobson, mai Môn FM yw’r unig orsaf radio y tu hwnt i BBC Radio Cymru, sydd yn darparu gwasanaeth radio yn gyson yn y Gymraeg.

Mae hefyd yn credu bod gan yr orsaf rôl i'w chwarae gan ystyried Bil y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, sydd wedi gosod y nod o gael o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

“’Da ni yma ar gyfer pawb, yn Gymraeg a Saesneg,” meddai.

“Mae 'na gyfartaledd eitha’ da yma rhwng y ddwy iaith. Da ni yma i hybu’r Gymraeg oherwydd dim ond ni, tu allan i’r BBC yng Nghymru, sy’n cynnal gwasanaeth radio yn yr iaith Gymraeg.

“Mae Bro Radio yn ne Cymru yn cynnig ambell i raglen neu fwletin yn Gymraeg, ond mi ydan ni’n cynnal gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg yn fwy rheolaidd.

"Mae o leia 60% o’n sioeau ni drwy'r iaith Gymraeg, ac mae’r cwestiwn yn cael ei ofyn – efo Llywodraeth Cymru eisiau miliwn o siaradwyr erbyn 2050, sut da ni’n mynd i 'neud hynny os di pobl ddim yn clywed yr iaith?

Image
Tomos Dobson
Cadeirydd Môn FM, Tomos Dobson

"Os da ni’m yn meithrin yr iaith, sut 'da ni’n mynd i gynnal yr iaith a sut 'da ni'n mynd i gal y pobol sydd ddim yn siarad yr iaith i ddechrau siarad?

"Di Môn FM ddim at ddant pawb, di Radio Cymru ddim at dant pawb, felly sut 'da ni’n mynd i neud o?

"Da ni wedi colli Capital Cymru, gorsaf oedd yn denu lot o wrandawyr, felly mae’n ddiddorol iawn gwybod sut 'da ni’n mynd i neud o.

"Da ni’n mynd i drio ym Môn FM beth bynnag, a cario 'mlaen neud be da ni di bod yn neud.” 

Dywedodd un o’r cyflwynwyr newydd, Kev Bach: “Mae darlledu yn y Gymraeg yn bwysig.

“Da ni’n sôn bod ni isho miliwn o siaradwyr Cymraeg ymhen ychydig o flynyddoedd, ac os ‘da ni am gyrraedd y targed yna, mae hi mor bwysig bod gorsafoedd radio fel Môn FM, fel Radio Cymru, yn darlledu yn y Gymraeg.

“A be sy’n grêt am gorsafoedd fel Môn FM, mi wyt ti’n teimlo bo chdi’n siarad yr un un Cymraeg a dy gynulleidfa di.”

Academi Môn FM

Fel rhan o ymdrechion i adeiladu i’r dyfodol, mae’r orsaf yn gobeithio cynnig rhagor o hyfforddiant i ddatblygu talent ifanc, yn ôl y Cadeirydd.

“Mae o’n bwysig bo’ ni yn cael pobol ifanc i mewn i radio,” meddai Mr Dobson.

“Fel rhywun sy’n ifanc fy hun, mond yn 22 oed, dwi’n meddwl bod o’n bwysig bod ni yn denu’r gynulleidfa ifanc ‘ma i mewn neu da ni’n mynd i golli nhw.

“‘Da ni isho bod yn medru dod a’r pobol ifanc yma i mewn a dysgu nhw rhywbeth gwerthfawr o’r byd cyfryngau, sgiliau golygu fideos, sain, neu cyflwyno ar y radio.

Image
Mon fm
Mae'r cerddor Meurig Thomas, prif leisydd y band Fleur de Lys, Rhys Edwards, a'r actor Emyr Gibson ymhlith y cyflwynwyr sydd wedi ymuno â Môn FM yn ddiweddar

“Dwi’n gobeithio yn y flwyddyn neu ddwy i ddod, sefydlu academi Môn FM, er mwyn targedu’r criw ifanc. ‘Da ni mynd i drio dysgu sut mae neud o’r ffordd iawn, efo’r criw sydd yma ym Môn FM.

“Mae Kev di bod yn neud o ers 30 mlynadd felly mae’n gwybod be mae’n siarad am. Felly da ni’n mynd i gymryd y wybodaeth sydd gan Kev a’i rhoi i nifer o bobl ifanc – dyna da ni’n gobeithio neud.”

Fe allai’r orsaf hefyd gynnig ffordd i fyd y cyfryngau i gyflwynwyr, yn ôl Mr Dobson.

“’Dwi wedi bod mewn cyfarfodydd efo Radio Cymru ac ati a ‘da ni isho ‘neud yn siŵr bod ‘na werth i Môn FM - bod o’n gam tuag at Radio Cymru. 

"Bod ni’n medru rhoi’r cymorth maen nhw angen a dysgu yma, ac wedyn cael eu cymryd drosodd i Radio Cymru ar blatfform cenedlaethol wedyn.”

Champion

Roedd Kev yn un o sefydlwyr gorsaf Champion 103 FM, a oedd yn darlledu o stiwdio ym Mangor i wrandawyr ym Môn a Gwynedd, cyn iddi gael ei hail-frandio’n Heart Cymru yn 2009, a Capital Cymru yn 2014.

Image
Kev Bach
Mae Kev Bach wedi bod yn cyflwyno ar Môn FM ers mis Mawrth eleni

Yn gynharach eleni, daeth y penderfyniad gan gwmni Global i ddod â gorsaf Capital Cymru i ben, gan arwain at gau stiwdios yn Wrecsam a Chaerdydd.

“Oedd o’n ddipyn o ergyd ar y pryd pan gafo’n ni wybod,” meddai’r cyflwynydd. 

“Ond gesh i alwad gan Tomos Dobson, yn gofyn, ‘sa ti’n hoffi dod i Môn FM , Kev?’ Mi o’n i isho cario ymlaen i ddarlledu, felly mi wnaethon ni benderfynu y byswn i’n dod yma.

“O’n i’n reit awyddus i neud rhaglen frecwast unwaith eto – mae pobol yn cofio fi’n neud y rhaglen frecwast ar Champion 103 FM ac hefyd Heart 103 FM, a fush i'n gwneud huna am 16 mlynedd.”

Er na chaiff gorsafoedd radio cymunedol dderbyn ffigyrau gwrando swyddogol, dywedodd Mr Williams bod yr ymateb “yn neud i mi deimlo bod 'na nifer o bobl allan yna yn gwrando.”

Ychwanegodd Tomos Dobson: "Dwi isho dod ag Ynys Môn a Gwynedd at ei gilydd fel Champion FM gynt.

"Mae Kev Bach yn deutha fi bob dydd, ‘mae Môn FM yn atgoffa fi o Champion’ a dyna lle dwi isho bod.

“Y ddelwedd ydi bod ni’n medru bod yn fwy cynaliadwy ar gyfer sail y gymuned i gyd.

"Bod ni yn medru bod yma ar gyfer mwy o bobl, a bod o'n hwb cymunedol ym Môn FM." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.