Strictly: Adroddiadau bod yr heddlu wedi eu galw yn sgil honiadau newydd
Yn ôl adroddiadau, mae'r BBC wedi gofyn i'r heddlu gynnal ymchwiliad yn sgil honiadau newydd yn gysylltiedig â Strictly Come Dancing.
Yn ôl y Sun On Sunday, mae'r gorfforaeth wedi cysylltu â Heddlu'r Met am honiadau newydd yn gysylltiedig â'r rhaglen ddawnsio boblogaidd, ond does dim manylion penodol wedi eu cyhoeddi.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC nad yw'r gorfforaeth yn gwneud sylw ar ymchwiliadau'r heddlu.
Daw'r adroddiadau diweddaraf ar ol i The Sun honni yn gynharach y mis hwn fod cyfeiriad at "ddefnydd cyffuriau dau aelod o Strictly" wedi codi ar y sioe, a bod y BBC wedi penodi cwmni cyfreithiol Pinsent Masons i arwain yr ymchwiliad.
Yn ôl adroddiadau, cafodd yr honiadau eu cyflwyno gan gwmni cyfreithiol Russells fis Mawrth, ar ran y cyn gystadleuydd, y canwr opera Cymreig, Wynne Evans, sydd bellach ddim yn gweithio i'r BBC ar ôl iddo ymddiheuro am ddefnyddio "iaith amhriodol" yn ystod taith Strictly.
Roedd y rhaglen yn destun ymchwiliad gan y BBC yn 2024, wedi i'r actores Amanda Abbingdon honni iddi gael ei bwlio gan y cyn ddawnsiwr proffesiynol Giovanni Pernice, tra roedd y ddau yn cystadlu gyda'i gilydd ar Strictly.
Derbyniodd y gorfforaeth fod sail i nifer o'r cwynion, ond nid pob un, a chafodd cyfres o fesurau newydd eu cyflwyno er mwyn gwarchod lles y cystadleuwyr.
Roedd hynny'n cynnwys gwarchodwr (chaperone) a fyddai'n bresennol “o hyd” yn ystod ymarferion.
Cafodd seren opera sebon EastEnders, James Borthwick hefyd ei wahardd dros dro o'r BBC, ar ôl i fideo ymddangos ohono'n defnyddio iaith sarhaus yn erbyn pobl anabl ar set y rhaglen ddawnsio.
Y gred yw fod y BBC yn aml yn penodi cwmni cyfreithiol allanol i'w cynorthwyo gydag ymchwiliadau.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC yn flaenorol: “Mae gennym ganllawiau clir a pholisïau er mwyn delio ag unrhyw gwyn ddifrifol sydd wedi codi."
“Rydym wastad yn annog pobl i siarad â ni os oes ganddynt bryderon. Ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach.”
Mae Heddlu'r Met yn Llundain wedi cael cais am sylw.