Seren roc yn cyfarwyddo ffilm am Hedd Wyn ar ôl cael ei ysbrydoli gan ei 'angerdd'

Seren roc yn cyfarwyddo ffilm am Hedd Wyn ar ôl cael ei ysbrydoli gan ei 'angerdd'

Mae seren roc o'r 80au wedi dweud ei fod wedi penderfynu cyfarwyddo ffilm am y Prifardd Hedd Wyn ar ôl cael ei daro gan yr “angerdd” yn ei farddoniaeth. 

Yn wreiddiol o Nottingham ac yntau bellach wedi ymgartrefu yn Sir Efrog yng ngogledd Lloegr, fe fydd y cerddor John Parr yn enw adnabyddus i nifer gyda’i gân Rif 1 fyd-enwog, St. Elmo’s Fire

Ond ers rhai blynyddoedd bellach mae Mr Parr wedi troi ei sylw at gyfarwyddo ffilmiau – ac mae wedi bod yn brysur yn hyrwyddo ei ffilm newydd, ‘A Pack of Five’, ar hyd a lled Cymru yn ddiweddar. 

Image
John Parr a Tina Turner
Roedd John Parr yn un o'r actiau agoriadol ar daith ryngwladol Tina Turner ar gyfer ei halbwm Private Dancer yn 1985

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd John Parr iddo gael ei ysbrydoli i gyfarwyddo’r ffilm ar ôl dysgu am hanes Hedd Wyn, sef Ellis Humphrey Evans, fel rhan o waith ymchwil. 

Roedd yn chwilio am syniadau ar gyfer ffilm arall oedd ganddo ei fryd ar ei chyfarwyddo pan gafodd ei daro gan hanes y Prifardd o Drawsfynydd. 

“Roeddwn i wastad wedi cael diddordeb mawr mewn barddoniaeth rhyfel fel bachgen ifanc, ond doeddwn i erioed wedi clywed am fardd rhyfel Cymreig,” meddai. 

“Felly roeddwn i'n gwneud ymchwil a daeth Hedd Wyn ataf.

“Unwaith o’n i ‘di darllen ei stori, roedd e fel ffilm.” 

Ers iddi gael ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin ym mis Mai, mae ei ffilm wedi ei henwebu gyfer BAFTA Cymru y flwyddyn nesaf. 

Image
A Pack of Five
Ffilmio ar set 'A Pack of Five'

'Angerdd'

Wedi iddo gael ei gonsgriptio yn 1916, bu farw Hedd Wyn ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917 yn y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Enillodd bardd y Gadair Ddu y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ger Lerpwl yn Lloegr chwe wythnos yn ddiweddarach gyda’i gerdd, Yr Arwr. 

Ac mae’r bardd o Wynedd wedi bod yn ffigwr eiconig yn hanes Cymru ers hynny. 

Mae'r “angerdd” sydd yn unigryw meddai John Parr. 

“Mae angerdd Cymry gyda cherddoriaeth, dawns, celf, barddoniaeth – mae mor brin [i ddod ar draws] fel Sais.”

Image
Hedd Wyn
Hedd Wyn. Llun: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

'Cysur'

Cafodd ‘A Pack of Five’ ei ffilmio yn Nhegryn, Sir Benfro ac mae’r cast i gyd o Gymru. 

Dim ond pump o actorion sydd yn ymddangos yn y ffilm fer sef, Rhodri Lewis o Degryn, Rhodri Evan o Efailwen, Crymych, Simon Nehan o Lanelli, Ddraig Williams o Landeilo a Scott Gutteridge sy’n byw yn Llundain ond sydd yn wreiddiol o’r de. 

Mae’r ffilm yn dilyn hanes y pump ohonynt fel milwyr o Gymru, Ffrainc a Lloegr sydd yn cyfarfod ar faes y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Maen nhw’n dod at ei gilydd am foment o orffwys gan rannu sigarets ac atgofion – a hynny wedi ei liwio gan farddoniaeth Hedd Wyn. 

Image
A Pack of Five

Gyda’r criw i gyd yn cydnabod arwyddocâd y Prifardd, roedd pawb yn deall mai “rhywbeth sanctaidd" oedd y broses ffilmio, meddai Mr Parr. 

Er mai ffilm Saesneg yw ‘A Pack of Five’ mae rhai golygfeydd ble mae ei farddoniaeth yn cael ei ddarllen yn Gymraeg. 

Roedd hynny’n bwysig er mwyn dangos cryfder geiriau Hedd Wyn, esboniodd John Parr. 

“Mae’r [actorion yn] cael cyfathrebu yn y Gymraeg ac yna mae’r farddoniaeth yn cael ei ddarllen yn Saesneg wedi hynny. 

“Mae hynny’n dangos ym mhob iaith – yn Ffrangeg, Saesneg a hefyd yn Gymraeg – effaith y geiriau a’r cysur y maen nhw’n eu rhoi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.