Sir y Fflint: Cyflenwad dŵr 'wedi dychwelyd i bawb'
Mae Dŵr Cymru wedi dweud bod cyflenwadau dŵr wedi eu adfer i bawb yn Sir y Fflint bellach, ar ôl i bibell ddŵr fyrstio.
Roedd miloedd o bobl mewn trefi a phentrefi yn y gogledd ddwyrain wedi bod heb ddŵr ers rhai dyddiau, ar ôl i bibell ddŵr fyrstio ym Mrychdyn yn dilyn gwaith atgyweirio dros dro ddydd Sadwrn 9 Awst.
Mae’r problemau wedi effeithio ar ardaloedd sy'n cynnwys: Y Fflint, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llannerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.
Bellach, mae cadarnhad wedi dod bod dŵr wedi dychwelyd i gartrefi pawb yn y sir, yn dilyn dyddiau o waith atgyweirio brys.
Mae Dŵr Cymru yn dweud y gallai rhai cwsmeriaid brofi “pwysedd isel neu gyflenwad anghyson” wrth i’r system ddychwelyd i’r arfer.
"Hoffwn ymddiheuro am y trafferthion mae hyn wedi achosi i'n cwsmeriaid," ychwanegodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru.
Bydd gorsafoedd dŵr potel yn parhau ar agor ym Mhafiliwn Jade Jones, Y Fflint, maes parcio a theithio Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a maes parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug ar fore Llun.
Mae'r cwmni wedi cadarnhau y gall cwsmeriaid a wnaeth golli eu cyflenwad dŵr hawlio iawndal.
Bydd cwsmeriaid domestig yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad. Bydd cwsmeriaid busnes yn cael taliad awtomatig o £75 am bob 12 awr, a byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm.
Cafodd dwy o gemau'r Cymru Premier JD eu gohirio y penwythnos hwn, oherwydd diffyg cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint.
Roedd Cei Connah i fod i herio'r Bala, a'r Fflint i fod i wynebu Hwlffordd.