
Tafod Glas: Llacio cyfyngiadau ar gludo da byw o Gymru i Loegr
Mae cyfyngiadau ar gludo da byw o Gymru i Loegr wedi cael eu llacio wedi cyfnod o atal gwerthu dros y ffin er mwyn ceisio rheoli lledaeniad feirws y Tafod Glas.
O ddydd Llun, 18 Awst, bydd da byw o Gymru sydd wedi derbyn y brechlyn seroteip 3 (BTV-3) o feirws y Tafod Glas yn gallu mynd i farchnadoedd penodol yn Lloegr, at ddibenion gwerthu da byw o Gymru yn unig, o fewn 20km i'r ffin â Chymru.
Ymhlith y marchnadoedd sy'n gymwys i gynnal gwerthiant pwrpasol o dda byw wedi eu brechu o Gymru mae Bishops Castle, Henffordd, Kington, Llwydlo, Market Drayton, Croesoswallt, Rhosan ar Wy a'r Amwythig, ac mae'n rhaid iddynt gadw at amodau penodol.
Rhaid i anifeiliaid sy'n mynd i'r marchnadoedd hyn ac sy'n dychwelyd i Gymru hefyd gwblhau'r symudiad yn ystod yr un diwrnod ac mae’n rhaid cydymffurfio ag amodau'r drwydded gyffredinol.
Ni all anifeiliaid aros yn y farchnad dros nos, ac ni fydd gofynion profi cyn neu ar ôl symud creaduriaid lle mae'r holl amodau wedi'u bodloni.
'Pryderu'
Er i gyfyngiadau cael eu llacio mae Llywydd NFU Cymru, Aled Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n gyflymach er mwyn galluogi ffermwyr i werthu eu da byw mewn marchnadoedd.
"Mae hwn yn gyfnod pwysig o'r flwyddyn yn y calendr ffermio a gyda'r tymor gwerthu ar y gweill, credwn fod mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau nad yw'r fasnach a'n buchesi yng Nghymru yn cael eu peryglu," meddai.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno cam dau o'r cynllun hwn ymlaen, a fyddai'n caniatáu i farchnadoedd Cymru wneud cais i gynnal 'Marchnadoedd Gwyrdd Tafod Glas'.
"Rydym yn pryderu, os mai dim ond o ganol mis Medi y gall marchnadoedd wneud cais am y dynodiad hwn - a gydag unrhyw aros i drwydded gael ei rhoi - y bydd llawer o'r tymor gwerthu bridio eisoes wedi mynd heibio, gan adael ffermwyr Cymru dan anfantais."
Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine eisoes wedi dweud: "Mae'r tafod glas yn glefyd a allai fod yn ddinistriol, fel y gwelwyd yn anffodus mewn gwledydd eraill.
"Fel rhan o gadw ein hymrwymiad i adolygu polisi'r Tafod Glas, rydym wedi bod yn trafod gyda rhanddeiliaid yn rheolaidd.
"Yn sgil y trafodaethau hyn, cytunwyd ar ddull fesul cam i hwyluso gwerthiannau'r hydref sy'n taro cydbwysedd rhwng buddion i'r diwydiant a'r risg o ledaenu'r clefyd.
"Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod y risg o gael gwared â chyfyngiadau da byw yn raddol, a'r cydbwysedd y mae'n rhaid ei daro rhwng y gallu i fasnachu a'r risg uwch o ledaenu'r clefyd.
"Drwy drafodaethau, mae'r diwydiant hefyd yn cydnabod ei gyfrifoldebau'n llawn, gan gynnwys yr angen i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion i fynychu gwerthiannau a marchnadoedd, rôl sylfaenol brechu yn erbyn y Tafod Glas – a'r risg a'r canlyniadau a rennir pe bai'r Tafod Glas yn dod i Gymru."