Mam Olivia Pratt-Korbel yn annog cymunedau i ddatgelu manylion am droseddau gwn

Olivia Pratt-Korbel

Mae mam y ferch naw oed o Lerpwl, Olivia Pratt-Korbel wedi ymuno â theuluoedd eraill sydd wedi dioddef yn sgil troseddau â gwn, er mwyn annog cymunedau i roi gwybodaeth i'r heddlu. 

Collodd Cheryl Korbel ei merch bron i dair blynedd yn ôl. 

Cafodd Olivia ei saethu gan Thomas Cashman wrth iddo redeg ar ôl gwerthwr cyffuriau arall i mewn i'w chartref yn Dovecot, Lerpwl ar 22 Awst 2022.

Marwolaeth Olivia oedd y trydydd achos o saethu angheuol ar Lannau Mersi o fewn wythnos.  

Yn ystod oriau mân y bore ddiwrnod ynghynt, cafodd dynes 28 oed, Ashley Dale ei saethu yn ei chartref yn Old Swan, Lerpwl a chafodd dyn 22 oed, Sam Rimmer, ei ladd yn Dingle ar 16 Awst.

Tra'n siarad bron dair blynedd ers marwolaeth ei merch, dywedodd mam Olivia, Cheryl Korbel: “Roedd fy merch fach yn naw oed yn unig pan gafodd ei saethu yn ei chartref ei hun. Roedd ei holl fywyd o'i blaen, ac mae'r boen o'i cholli y tu hwnt i eiriau.

“Mae'n dair blynedd ers i fi ei chlywed yn chwerthin, ei hebrwng i'r gwely neu ddal ei llaw, ond mae'r poen o'i cholli yn dal i deimlo fel pe bai wedi digwydd ddoe  

“Dydw i fyth yn mynd i'w gweld yn tyfu, yn priodi, yn cael plant neu gyflawni ei breuddwydion, ac mae hynny'n torri fy nghalon.”

'Atal trychinebau'

Ers y llofruddiaethau, mae Heddlu Glannau Mersi wedi derbyn arian gan y Swyddfa Gartref er mwyn cynnal rhaglen sy'n cael ei hadnabod fel Evolve yn lleol. 

Y nod yw cael gwared â throseddau mewn cymunedau a'u hail adeiladu.  

Dywedodd Ms Korbel: “Mae Evolve wedi ei chreu er mwyn atal trychinebau eraill, ac er mwyn sicrhau nad yw teuluoedd eraill yn gorfod dioddef y boen ry'n ni'n ei theimlo bob dydd. 

“Er ei fod yn gwneud gwahaniaeth, ry'n ni angen eich help. Er mwyn sicrhau fod ein cymunedau'n ddiogel, os ydych yn gwybod unrhyw beth am droseddau yn eich ardal, datgelwch hynny.”

Image
Cofio

Gobaith 

Yr wythnos diwethaf, roedd Ms Korbel wrth goeden Olivia – a gafodd ei phlannu er cof amdani yn Dovecot. 

Yno fe wnaeth hi gyfarfod ag eraill sy'n rhan o raglen Evolve, yn cynnwys Tim Edwards, a gollodd ei ferch 26 oed Elle Edwards, a gafodd ei saethu'n farw y tu allan i dafarn yn Nghilgwri, Noswyl Nadolig 2022. 

Yn ôl Mr Edwards, mae'r teuluoedd wedi dod i adnabod ei gilydd ers y trychinebau.  

Dywedodd: “Dyma'r clwb nad ydych chi eisau bod ynddo, ac ry'n ni i gyd yn y clwb hwnnw, felly ry'n ni wastad yn gofalu am ein gilydd.”

Dywedodd fod rhaglen Evolve yn cynnig gobaith iddo.  

Dywedodd mam Ashley Dale, Julie fod y tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn “hunllef.”

Mae pedwar dyn – James Witham, Niall Barry, Sean Zeisz a Joseph Peers wedi cael eu carcharu am lofruddio ei merch. 

Dywedodd: “Ni yw'r rhai ‘lwcus’ gan ein bod ni wedi sicrhau cyfiawnder ar gyfer Ashley.

“Heb gefnogaeth y gymuned, mae'n anodd gwybod ym mha sefyllfa fydden ni nawr.

“Yn anffodus, mae yna deuluoedd sy'n dal i aros am gyfiawnder, ac yn gwybod bod y rhai sydd wedi lladd eu hanwyliaid yn dal i fod allan yna, yn cerdded ar ein strydoedd 

“Ni ddylai unrhyw riant brofi hynny. Felly rwy'n apelio ar unrhyw un allai fod â gwybodaeth i nodi hynny er mwyn i deuluoedd gael y cyfiawnder y maen nhw yn ei haeddu”

Does neb erioed wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Sam Rimmer, a oedd gyda ffrindiau pan saethodd rywrai ar feiciau trydan tuag atyn nhw.

Mae ei fam Jo Rimmer, yn apelio ar unrhyw sydd â gwybodaeth i ddatgelu hynny.

Dywedodd: “Os ydych yn gwybod unrhyw beth, plîs plîs datgelwch hynny.

“Fydd neb yn gwybod gan y bydd yr holl broses yn hollol gyfrinachol

“Fe wnes i farw'r diwrnod y collais Sam. Rydw i yma ond dydw i ddim yn byw.

"Rydw i'n gwybod na fydd y poen o golli Sam fyth yn diflannu, ond os y caf gyfiawnder ar gyfer ei lofruddiaeth, efallai y gall y teulu a finnau ddechrau symud ymlaen a chanolbwyntio ar atgofion hapus am Sam.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.