'Dim llais gan blant': Neil Kinnock yn galw am ddileu'r cap dau blentyn
Mae cyn arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, y Cymro Neil Kinnock wedi dweud y dylai ei blaid gael gwared â'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant.
Yr Arglwydd Kinnock yw’r diweddaraf i alw ar Lywodraeth y DU i roi diwedd ar y cap ar fudd-daliadau a'r cyfyngiad dau blentyn, wedi i'r drefn gael ei chyflwyno . gan y Ceidwadwyr yn 2017.
Mae hynny'n cyfyngu credyd treth plant a chredyd cynhwysol i’r ddau blentyn cyntaf yn y rhan fwyaf o achosion.
Dywedodd yr Arglwydd Kinnock ei fod yn annog gwleidyddion i ystyried cyflwyno treth ar y cyfoethog yn hytrach na pharhau â'r cyfyngiadau budd-dal plant.
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan eisoes wedi dweud bod y cap dau blentyn ar fudd-daliadau yn “niweidiol” i deuluoedd.
Ac mae cyn Brif Weinidog Llywodraeth y DU, Gordon Brown wedi dweud mai cael gwared â’r cap fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o ostwng lefelau tlodi plant.
'Dim llais'
Mewn cyfweliad gyda’r Sunday Mirror, dywedodd yr Arglwydd Kinnock, a oedd yn arwain y Blaid Lafur yn San Steffan rhwng 1983 a 1992, y byddai’r cynnydd mewn tlodi plant yn gwneud yr awdur Charles Dickens “yn wallgof.”
Roedd Dickens wedi profi tlodi sylweddol yn ystod ei fagwraeth a hynny wedi ei adlewyrchu yn ei waith, ac yntau'n adnabyddus am ei nofelau fel Oliver Twist a David Copperfield.
Dywedodd yr Arglwydd Kinnock ei fod yn cydnabod na fyddai Llafur yn gallu cael gwared â’r cap “ar unwaith” ond ei fod yn wir obeithiol y bydd y blaid yn “symud yn y cyfeiriad yna.”
“Petai hynny'n digwydd, mae’r ffigyrau yn awgrymu y byddai tua 600,000 yn llai o blant yn byw mewn tlodi,” meddai.
Dywedodd y gallai cyflwyno treth ar yr 1% o bobl gyfoethoca'r DU alluogi'r llywodraeth i gael gwared â’r cap.
“Dwi’n gwybod mai economeg Robin Hood ydy hynny, ond dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth ofnadwy o ddrwg am hynny."
Mae’n dweud bod lefelau tlodi plant wedi codi yn raddol yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf yn ystod cyfnod y Ceidwadwyr mewn grym, yn bennaf.
Dywedodd bod hynny wedi gallu digwydd am nad oes “llais” gan blant a bod eu rhieni yn teimlo nad oes “unrhyw bŵer” ganddyn nhw.
Llun: Jane Barlow/PA Wire