Wcráin: Keir Starmer i gyfarfod ag arweinwyr Ewrop
Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cyfarfod ag arweinwyr eraill Ewrop ddydd Sul, wedi adroddiadau fod Donald Trump yn ffafrio telerau'r Arlywydd Putin, sef hawlio tir yn Wcráin, er mwyn dod â'r rhyfel i ben.
Bydd Syr Keir Starmer, Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron a Changhellor yr Almaen, Friedrich Merz yn arwain y trafodaethau drwy gyfrwng fideo brynhawn Sul.
Y gwledydd Ewropeaidd yn y trafodaethau hyn sy'n bwriadu cadw'r heddwch yn Wcráin os y daw cytundeb.
Ac mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal wrth i Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky baratoi i gyfarfod â'r Arlywydd Trump yn y Tŷ Gwyn ddydd Llun.
Gallai'r cyfarfod rhwng Volodymyr Zelensky a Donald Trump arwain at gyfarfod rhyngddyn nhw ac Arlywydd Rwsia Vladimir Putin, yn ôl Mr Trump.
Cafodd cyfarfod ei gynnal rhwng Arlywyddion Rwsia ac America nos Wener yn Anchorage, Alaska, er mwyn ceisio dod â'r rhyfel i ben yn Wcráin.
Chafodd Mr Zelensky ddim gwahoddiad i'r cyfarfod hwnnw.
Tir
Yn ystod y trafodaethau hynny, mae rhai ffynonellau yn honni bod Mr Putin wedi mynnu rheolaeth lawn ar ranbarthau Donetsk a Luhansk yn Wcráin, wrth drafod yr amodau i ddod â'r rhyfel i ben. Mae milwyr Rwsia wedi meddiannu'r rhanbarthau hynny yn ystod y rhyfel.
Yn gyfnewid am hynny, byddai Vladimir Putin yn fodlon ildio tiriogaethau eraill yn Wcráin sydd ar hyn o bryd ym meddiant milwyr Rwsia, yn ôl adroddiadau.
Mae rhai ffynonellau o'r farn bod Mr Trump yn ystyried cefnogi'r cynllun hwnnw, a bydd yn siarad â Mr Zelensky am hynny ddydd Llun yn ystod eu cyfarfod.
Mae Syr Keir Starmer wedi canmol ymdrechion Mr Trump i geisio dod â'r rhyfel i ben.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi siarad ag Arlywydd America, Mr Zelensky ac arweinwyr gwledydd Nato dros y ffôn, fore Sadwrn.
Ond mae Syr Keir Starmer yn mynnu bod yn rhaid i Mr Zelensky fod yn bresennol mewn unrhyw drafodaethau pellach i drafod ffyrdd o sicrhau heddwch yn Wcráin, gan na chafodd e wahoddiad i'r cyfarfod rhwng Mr Trump a Mr Putin.
Mae Donald Trump wedi lled awgrymu ei fod yn dymuno gweld cytundeb heddwch parhaol yn hytrach na chadoediad, sef dymuniad Mr Putin.
Mae Volodymyr Zelensky wedi rhybuddio y gallai ymosodiadau Rwsia ar Wcráin ddwysáu yn y dyddiau nesaf, gan y gallai hynny, yn ei farn e, ddylanwadu ar y trafodaethau gwleidyddol.