Dyn wedi ei arestio ar ôl digwyddiad yng nghanol Castell Newydd Emlyn
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys fod dyn wedi ei arestio ar ôl digwyddiad yng nghanol tref Castell Newydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn.
"Rydym eisiau sicrhau pawb fod y sefyllfa o dan reolaeth bellach, ac rydym yn awyddus i ddiolch i bobl am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad," meddai'r datganiad gan yr heddlu sy'n plismona ardal Castell Newydd Emlyn.
Maen nhw'n galw ar bobol i gysylltu â nhw os oes cerbydau wedi eu difrodi neu rhywun wedi dioddef yn sgil trosedd gan ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20250816-184.
Llun: Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn