Cymru Premier JD: Rhagolwg gemau Sadwrn
Dechreuodd y tymor newydd yn y modd mwyaf annisgwyl wrth i’r pencampwyr presennol, ac unig glwb proffesiynol y gynghrair, Y Seintiau Newydd golli gartref o 3-0 yn erbyn Llansawel, sef y tîm orffennodd un safle uwchben y ddau isaf y tymor diwethaf.
Hon oedd colled drymaf Y Seintiau Newydd yn y Cymru Premier JD ers pedair blynedd, a’r tro cyntaf ers wyth tymor i gewri Croesoswallt golli eu gêm agoriadol yn y gynghrair.
Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i’r nifer o aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27.
Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair. Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r swm hwnnw syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Mae dwy o gemau'r Cymru Premier JD wedi cael eu gohirio y penwythnos hwn, a hynny oherwydd diffyg cyflenwad dŵr yn Sir y Fflint.
Roedd Cei Connah i fod i herio'r Bala ddydd Gwener, a'r Fflint fod i wynebu Hwlffordd ddydd Sadwrn, ond yn sgil y trafferthion dŵr yn Sir y Fflint yr wythnos hon, mae'r gemau wedi'u gohirio.
Dyma gipolwg ar y gemau a fydd yn cael ei chwarae ddydd Sadwrn:
Caernarfon v Llanelli | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd rhaid i Gaernarfon alw ar eu arch-arwr Darren Thomas i achub pwynt i’r Caneris ar Gampws Cyncoed brynhawn Sadwrn gyda’r Cofi Messi yn camu oddi ar y fainc i sgorio gôl arbennig yn yr eiliadau olaf yn y brifddinas.
Ond doedd dim achos dathlu i Lanelli yn eu gêm gyntaf yn ôl yn yr uwch gynghrair ers chwe blynedd wrth i’r Cochion golli o 2-0 gartref yn erbyn Y Barri nos Wener.
Mae bron i saith mlynedd wedi mynd heibio ers i’r clybiau yma gyfarfod yn nhymor 2018/19 gyda Caernarfon yn ennill o 3-0 ar yr Oval, cyn cael gêm gyfartal 2-2 ar Barc Stebonheath.
Dyw Llanelli heb guro Caernarfon ers 16 o flynyddoedd, pan enillodd y Cochion o 5-0 ar yr Oval gyda Rhys Griffiths yn sgorio ddwywaith ac yn creu y dair arall i’r ymwelwyr.
Bydd Caernarfon yn chwarae eu gemau cartref ar Barc Maesdu, Llandudno y tymor hwn tra bod gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i’w cae arferol, Yr Oval.
Y Barri v Bae Colwyn | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n ddechrau delfrydol i’r tymor i’r Barri y penwythnos diwethaf gyda tîm Steve Jenkins yn ennill o 2-0 oddi cartref yn Llanelli.
Ben Margetson a Ieuan Owen oedd y sgorwyr i’r Dreigiau, a bydd George Ratcliffe yn falch o fod wedi cadw llechen lân yn ei gêm gyntaf yn ôl yn lifrau’r Barri.
Roedd Michael Wilde yn fwy na bodlon gyda gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah yn ei gêm gyntaf fel rheolwr Bae Colwyn yn Uwch Gynghrair Cymru.
Nathan Peate beniodd y gôl bwysig i’r Bae yn ei gêm gynghrair gyntaf i’r clwb, ac fe brofodd ei fod yn arwyddiad allweddol i’r Gwylanod gyda perfformiad cadarn yng nghanol yr amddiffyn.
Fe wnaeth y clybiau yma gyfarfod bum gwaith yn ystod tymor 2023/24 gyda Bae Colwyn yn ennill eu dwy gêm gartref, ond yn methu ac ennill ar eu tri hymweliad â Pharc Jenner (cyfartal 2, colli 1).
Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Er ein bod ni prin wedi dechrau’r tymor domestig, mae’n deg dweud bod yr ymgyrch hyd yma wedi bod yn siomedig tu hwnt i’r Seintiau Newydd.
Mae criw Craig Harrison eisoes wedi chwarae chwe gêm gystadleuol yn nhymor 2025/26 gan ennill dim ond un o rheiny (YSN 7-1 Airbus).
Roedd hi’n ymgyrch Eweropeaidd sâl i’r Seintiau, a gollodd eu dwy rownd yn erbyn Shkëndija a Differdange 03, a byddai neb wedi darogan colled o 3-0 gartref yn erbyn Llansawel ar benwythnos agoriadol y gynghrair.
Hon oedd colled drymaf Y Seintiau Newydd yn y Cymru Premier JD ers pedair blynedd, a’r tro cyntaf ers wyth tymor i gewri Croesoswallt golli eu gêm agoriadol yn y gynghrair.
O ran Pen-y-bont, roedd hi’n edrych yn ddu arnyn nhw pan aethon nhw lawr i 10-dyn ar Ddôl y Bont wedi i James Crole roi cic i amddiffynnwr Hwlffordd, Alaric Jones.
Er hynny, fe lwyddodd tîm Rhys Griffiths i fanteisio ar amddiffyn llac Hwlffordd, gyda Mael Davies yn taro unig gôl y gêm wedi awr o chwarae.
Enillodd Pen-y-bont eu dwy gêm gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd y tymor diwethaf, ond colli’r ddwy gêm oddi cartref yn Neuadd y Parc.
Rhoddodd Pen-y-bont dipyn o fraw i’r Seintiau y tymor diwethaf gyda tîm Rhys Griffiths yn synnu pawb wrth eistedd ar frig y tabl dros gyfnod y Nadolig.
Llwyddodd y Seintiau i gamu ‘nôl i’r copa yn ystod ail ran y tymor gan ennill 12 gêm gynghrair yn olynol a gorffen yr ymgyrch 14 pwynt uwchben Pen-y-bont.
Bydd Pen-y-bont yn sicr yn gweld colli enillydd yr Esgid Aur, James Crole yn ystod ei waharddiad, yn enwedig gan iddo daro tair gôl gynghrair yn erbyn Y Seintiau Newydd y tymor diwethaf.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.