Putin a Trump: 'Dim cytundeb' ar ryfel Wcráin
Mae Donald Trump wedi dweud nad yw e a Vladimir Putin wedi llwyddo i ddod i gytundeb er mwyn dod â’r ymladd yn Wcráin i ben.
Ar ôl trafodaethau a barodd bron i dair awr yn Anchorage, Alaska nos Wener, dywedodd Donald Trump y bydd y trafodaethau'n parhau eto.
Chafodd Arlywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky ddim gwahoddiad i'r cyfarfod.
Ond yn dilyn trafodaethau dros y ffôn fore Sadwrn, fe fydd Mr Zelensky bellach yn cyfarfod â Donald Trump yn Washington DC ddydd Llun.
'Dim cytundeb'
Mewn cynhadledd newyddion wedi'r cyfarfod gyda Vladimir Putin nos Wener, dywedodd Donald Trump “wnaethon ni ddim cyrraedd [cytundeb].”
Darllenodd y ddau arlywydd ddatganiadau, a doedd dim modd i ohebwyr ofyn cwestiynau iddyn nhw.
Dywedodd Donald Trump bod “ychydig o gynnydd gwych” wedi bod, gyda'r ddau wedi cytuno ar “nifer o bwyntiau” ac “ychydig iawn” bellach ar ôl i’w drafod.
Dywedodd Vladimir Putin bod ganddo “ddiddordeb gwirioneddol” i ddod â rhyfel Rwsia yn Wcráin i ben.
Awgrmymodd hefyd y dylai'r cyfarfod nesaf gyda Mr Trump ddigwydd ym Moscow.
Ni wnaeth Arlywydd America ymrwymo i hynny, ond dywedodd " y gallai o bosibl weld hynny'n digwydd."
'Galwad hir'
Mae Swyddfa Arlywyddol Wcráin wedi cadarnhau bod yr Arlywydd Zelensky wedi siarad â Donald Trump dros y ffôn fore Sadwrn.
Dywedodd llefarydd: "Roedd yn alwad hir - i ddechrau rhwng yr Arlywyddion Zelensky a Trump yn unig, ac ar ôl hynny fe wnaeth arweinwyr gwledydd Ewrop ymuno â'r sgwrs."
Mae Mr Zelenksy wedi dweud ei fod yn “ddiolchgar am y gwahoddiad” i drafod gyda Donald Trump.
Cadarnhaoddd Downing Street bod Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer wedi bod yn rhan o’r trafodaethau dros y ffôn fore Sadwrn.
Roedd arweinwyr Yr Eidal, Ffrainc, Yr Almaen, Gwlad Pwyl, Y Ffindir yn rhan o’r sgwrs hefyd, yn ogystal â Mark Rutte, Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, ac Ursula von der Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.
Llun: Reuters