
Tîm Prydain parhaol ar gyfer rygbi saith bob ochr yn ‘gam mawr yn ôl’

Tîm Prydain parhaol ar gyfer rygbi saith bob ochr yn ‘gam mawr yn ôl’
Byddai cael tîm Prydain yn cystadlu'n barhaol ar gylchdaith rygbi saith bob ochr y byd yn ‘gam mawr yn ôl' yn ôl un cyn-chwaraewr rhyngwladol.
Mae’r cyhoeddiad y bydd tîm Prydain yn cystadlu yng nghyfres Rygbi saith bob ochr y Byd HSBC wedi denu ymateb negyddol gan rai a hefyd wedi sbarduno deiseb.
Dyma’r tro cyntaf i dîm Prydain chwarae tu allan i’r Gemau Olympaidd.
Mae’r cyhoeddiad wedi dod tua blwyddyn ar ôl i Undeb Rygbi Cymru darfod tîm saith bob ochr dynion Cymru.
Penderfyniad dros dro mewn amgylchiadau anodd oedd dod a thîm saith bob ochr dynion Cymru i ben meddai Undeb Rygbi Cymru llynedd.

Mae cyn-asgellwraig Cymru Caryl James yn beirniadu’r penderfyniad.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: “Byddai hyn yn gam mawr yn ôl. Mae'n bwysig bod Cymru yn cystadlu fel Cymru.
“Ni'n genedl ar ben ein hun, ar wahân i Brydain Fawr. Mae gyda ni traddodiadau, diwylliant a hunaniaeth.
“A dwi'n teimlo bydde ni'n colli hynny petai ni'n cystadlu fel tîm Prydain fawr”.

Diffyg arian oedd wedi arwain at ddiwedd tîm saith bob ochr dynion Cymru.
Mae cyn-brif weithredwr yr Undeb yn deall pam bod angen blaenoriaethu’r gêm pymtheg pob ochr.
Dywedodd Gareth Davies wrth raglen Newyddion S4C: “Blaenoriaethau yw'r gêm 15 dyn wrth gwrs a 15 menyw hefyd ac mae hwnna'n berthnasol yn y gêm gymunedol, ac mae'n berthnasol yn y gêm broffesiynol ac felly mae ond shwd gymaint o arian ar gael i ariannu, ac mae rhaid cofio odd yr ymgyrch saith pob ochr yn costi dros £500,000 y flwyddyn.
“Ac os nag oes llawr yn dod o wario £500,000 fi'n credu bod yr Undeb yn itha iawn yn ystyried y buddsoddiad 'ny”.
Bellach mae gan Undeb Rygbi Cymru gyfarwyddwr perfformiad newydd, Nigel Walker, ac fe fydd holl raglenni perfformiad gan gynnwys rygbi saith bob ochr dan ei ofal.
Maen nhw’n pwysleisio mai nawdd ar gyfer y tymor hwn yn unig oedd yr arian ar gyfer Tîm Prydain ac y byddan nhw’n edrych i baratoi timau saith bob ochr ar gyfer gemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.