Llandysul: Cymeradwyo cynllun ar gyfer 20 o dai a fflatiau ar safle hen ysgol

Ysgol Dyffryn Teifi

Mae cynllun ar gyfer 20 o aelwydydd newydd ar safle cyn Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul wedi cael ei gymeradwyo. 

Fe fydd pedwar o'r tai yn rhai “fforddiadwy”, yn ôl cynlluniau Dyffryn Teifi Developments Ltd. 

Fe gyflwynodd y cwmni’r cynlluniau i bwyllgor rheoli a datblygu Cyngor Sir Ceredigion ar 13 Awst drwy asiantaeth JMS Planning and Development. 

Daw wedi i’r ysgol gau yn 2016 yn dilyn datblygiad Ysgol Bro Teifi i’r gogledd o dref Llandysul yng Ngheredigion. 

Ers hynny mae sawl cynllun wedi eu cymeradwyo ar gyfer adeiladau ar safle’r hen ysgol, gan gynnwys ar gyfer swyddfeydd yno. 

Image
Ysgol Dyffryn Teifi

Fe fyddai’r cynlluniau newydd yn cynnwys adeiladu 15 o dai newydd yn ogystal â thrawsnewid adeilad o’r enw Tŷ’r Ysgol i mewn i bump o fflatiau. 

Mae’r cynlluniau hefyd yn nodi y bydd yn rhaid adeiladu ffordd newydd er mwyn creu mynediad o Ffordd Llyn Y Fran sy’n gyfagos. 

Bydd “cymysgedd” o dai a fflatiau yn cael eu datblygu sydd yn amrywio yn eu maint a’r nifer o ystafelloedd sydd ganddynt. 

Yn ôl y cynlluniau, dim ond ychydig o waith datblygu fydd angen ei gwneud ar adeilad Tŷ’r Ysgol er mwyn ei throsi i bump fflat. 

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cyfraniad ar gyfer tai fforddiadwy – gan gynnwys tri thŷ sydd a thair ystafell wely ac un fflat a fydd yn cael ei gwerthu am 70% yn is na’r hyn a byddai ar y farchnad. 

Image
Cynlluniau

Cafodd aelodau’r pwyllgor wybod fod gan yr ymgeisydd o gwmni Dyffryn Teifi Developments Ltd cysylltiad personol i’r hen ysgol. 

Roedd yn cyn disgybl yn yr ysgol ac yn dweud bod y cynlluniau yn “ffordd o greu rhywbeth sydd yn parchu’r gorffennol tra yn perthyn i’r dyfodol.” 

Dywedodd y cynghorydd lleol Keith Evans ei fod yn “gefnogol” o’r weledigaeth ar gyfer y safle. 

Roedd aelodau’r pwyllgor yn unfrydol wrth gymeradwyo’r cynlluniau. 

Image
Cynlluniau

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.