Trump a Putin i drafod Wcráin mewn cyfarfod yn Alaska
Trump a Putin i drafod Wcráin mewn cyfarfod yn Alaska
Fe fydd yr Arlywydd Donald Trump a'r Arlywydd Vladimir Putin yn cyfarfod yn Anchorage, Alaska, yn ddiweddarach dydd Gwener i drafod yr ymladd yn Wcráin.
Ni fydd Volodomyr Zelensky, Arlywydd Wcráin, yn rhan o'r trafodaethau fydd yn dyngedfennol i ffiniau ei wlad.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar wersyll milwrol Elmendorf-Richardson, sydd yn gartref i 30,000 o bobl.
Mae'r Tŷ Gwyn yn mynnu y bydd Mr Trump yn gwneud popeth o fewn ei allu i roi terfyn ar yr ymladd rhwng lluoedd Rwsia a Wcráin yn ystod y cyfarfod.
Ond mae pryder ymysg arweinwyr gwledydd Ewrop y gallai'r Arlywydd Putin ddylanwadu ar ganlyniad y trafodaethau a pheryglu diogelwch gwledydd eraill o ganlyniad.
Mae Vladimir Putin wedi canmol ymdrechion Mr Trump i geisio dod a diwedd i'r brwydro rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd wrth asiantaeth newyddion TASS ei fod yn gwerthfawrogi'r "ymdrechion eithaf egnïol a diffuant i atal gweithgareddau ymladd, i atal yr argyfwng a chyrraedd cytundebau sydd o ddiddordeb i bob ochr sy'n rhan o'r gwrthdaro".
Byddai hynny, ychwanegodd, yn "creu amodau hirdymor ar gyfer heddwch rhwng ein gwledydd, yn Ewrop ac yn y byd yn gyffredinol."
Rhydduddiodd Donald Trump y byddai "canlyniadau difrifol iawn" i Rwsia petai'r trafodaethau'n methu ond ni aeth i unrhyw fanylion pellach na hynny.
'Buddugoliaeth i Putin'
Yn ôl y newyddiadurwr Mared Gwyn, sydd yn gweithio ym Mrwsel i Euronews, fe fydd y trafodaethau yn achosi “pryder” i wledydd Ewrop.
“Mae 'na nerfusrwydd mawr," meddai.
"Oherwydd er bod Trump yn honni bod o am gael cytundeb am gadoediad yn y cyfarfod yma, nad ydi o wedi neud unrhyw addewidion ar newid tir - dyna mae rhai swyddogion yn America yn ei ddeud o leia' - mae ‘na bryder y bydd Trump yn gwerthu rhyw fath o gytundeb i Putin heb ymgynghori’n iawn efo Ewrop, ac y bydd y cytundeb hwnnw yn peryglu dyfodol Wcráin a hefyd dyfodol Ewrop.
“Mae’r ffaith bod y cyfarfod ‘ma yn digwydd yn Alaska yn fuddugoliaeth i Vladimir Putin. Mae’n gyfle iddo swyno Trump.
“Mae ‘na sôn y bydd ‘na drafod partneriaethau economaidd, cydweithio agosach rhwng Rwsia ac America ac y bydd hwnnw yn ffordd o hudo Trump a’i swyno fo i gytuno rhyw fath o drefniant brys ar gyfer Wcráin.”