Cymru Premier JD: Cipolwg ar gemau ddydd Gwener wedi dechrau annisgwyl

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Llansawel

Mae’r tymor newydd wedi dechrau yn y modd mwyaf annisgwyl wrth i’r pencampwyr presennol, ac unig glwb proffesiynol y gynghrair, Y Seintiau Newydd golli gartref o 3-0 yn erbyn Llansawel, sef y tîm orffennodd un safle uwchben y ddau isaf y tymor diwethaf.

Hon oedd colled drymaf Y Seintiau Newydd yn y Cymru Premier JD ers pedair blynedd, a’r tro cyntaf ers wyth tymor i gewri Croesoswallt golli eu gêm agoriadol yn y gynghrair.

Roedd hi’n benwythnos da i Ben-y-bont a lwyddodd i drechu Hwlffordd er i’r blaenwr James Crole gael ei hel o’r maes ar ddechrau’r ail hanner.

Y Barri yw’r unig dîm arall i ddechrau’r ymgyrch gyda triphwynt wedi i’r Dreigiau guro Llanelli o 2-0 ar Barc Stebonheath nos Wener.

Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i’r nifer o aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27. 

Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair. Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r swm hwnnw syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Cei Connah v Y Bala | Nos Wener – 19:45

Dechreuodd Cei Connah eu cyfnod dan arweiniad y rheolwr newydd John Disney gyda gêm gyfartal 1-1 oddi cartref yn erbyn y newydd ddyfodiaid, Bae Colwyn.

Sgoriodd Jason Oswell ei gôl gyntaf i’r Nomadiaid gyda pheniad cynnil yn yr hanner cyntaf ar Ffordd Llanelian, ond roedd rhaid i Disney fodloni ar bwynt yn unig wedi i Nathan Peate unioni’r sgôr i Fae Colwyn cyn yr egwyl.

Roedd hi’n stori debyg i’r Bala wedi i dîm Steve Fisher fynd ar y blaen yn erbyn Y Fflint drwy gôl Hussein Mehasseb, ond gorffennodd y gêm honno yn 1-1 hefyd wedi i Ben Wynne unioni i’r ymwelwyr.

Cafwyd gemau dadleuol rhwng y timau yma’r tymor diwethaf yn y cyfnod cyn yr hollt, ac hynny’n bennaf oherwydd y tywydd.

Roedd Cei Connah yn curo’r Bala o 3-0 yng Nghae y Castell ar y penwythnos olaf cyn yr hollt, ond bu rhaid gohirio’r gêm wedi awr o chwarae oherwydd niwl trwchus.

Ail-chwaraewyd yr ornest dridiau yn ddiweddarach, ac fe enillodd Y Bala o 2-0 gan gipio’r safle olaf yn y Chwech Uchaf ar draul Y Barri.

Mae hynny’n golygu nad yw Cei Connah wedi sgorio yn eu tair gêm swyddogol ddiwethaf yn erbyn Y Bala, a dyw’r Nomadiaid heb ennill dim un o’r chwe gêm gynghrair ddiwethaf rhwng y clybiau (cyfartal 3, colli 3).

Llansawel v Met Caerdydd | Nos Wener – 19:45

Bydd llanciau Llansawel yn llawn hyder ar ôl achosi sioc anferthol drwy guro’r pencampwyr yn gyfforddus ar eu tomen eu hunain ar y penwythnos agoriadol.

Hon oedd colled drymaf Y Seintiau Newydd yn y Cymru Premier JD ers pedair blynedd, gyda’r blaenwr ifanc Ruben Davies yn serennu i Lansawel wrth sgorio dwy gôl gan ychwanegu at y ddwy sgoriodd yn erbyn Adar Gleision Trethomas yng Nghwpan Nathaniel MG y penwythnos blaenorol.

Bydd Met Caerdydd ychydig yn siomedig o fod wedi gorfod rhannu’r pwyntiau gyda Chaernarfon ddydd Sadwrn wedi i’r myfyrwyr fynd ar y blaen o 2-0 yn yr hanner cyntaf, cyn ildio dwy gôl hwyr ar Gampws Cyncoed.

Sgoriodd Ryan Reynolds gôl gampus arall brynhawn Sadwrn i ychwanegu at ei gasgliad eang o goliau syfrdanol yng nghrys marŵn y myfyrwyr.

Enillodd Met Caerdydd o 5-1 yn Llansawel ar ddechrau’r tymor diwethaf, a dyna’r unig dro i’r myfyrwyr sgorio pump o goliau mewn gêm gynghrair oddi cartref ers eu dyrchafiad i’r Cymru Premier JD yn 2016.

Ond fe gafodd Llansawel ddial yng Nghampws Cyncoed ar ddydd San Steffan, gan ennill o 3-1 yn y brifddinas yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.