Carcharu dyn o Abertawe wedi iddo ymosod ar ei gyn-bartner
Mae dyn o Abertawe wedi ei garcharu wedi iddo ei gael yn euog o ymosod ar ei gyn-bartner, a hynny ym mhresenoldeb ei mab un oed.
Roedd William Mayberry, 26 oed o Flaenymaes, wedi taro’r dioddefwr yn ei phen gyda'i ben ei hun (headbutt), cyn iddo dorri ei ffon symudol hi.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad o flaen mab un oed ei gyn-bartner ar ddydd Llun, 16 Mehefin.
Fe wnaeth Mayberry wthio’r bachgen yn ei gefn yn ddiweddarach gan achosi iddo gwympo.
Roedd hefyd wedi bygwth y dioddefwr a’i rhieni wedi’r ymosodiad.
Fe blediodd Mayberry yn ddieuog i’r troseddau yn ei erbyn ond cafwyd yn euog o bob un ohonynt y mis yma.
Dywedodd y Rhingyll Rachael Draisey o Heddlu De Cymru: “Roedd troseddu William Mayberry eisoes yn gwbl annerbyniol, ond roedd targedu plentyn diamddiffyn yn brawf dychrynllyd o'i gymeriad gwael.
“Rydym yn gobeithio bod y dioddefwr a'r teulu yn cael rhywfaint o gysur o'i ddedfryd o garchar a'r gorchymyn atal a fydd yn ei dynnu allan o'u bywydau.”
'Nid chi sydd ar fai'
Cafwyd yn euog o bum achos o ymosodiad drwy guro (assault by beating), un achos o fygwth i ddifrodi eiddo, un achos o ymddwyn mewn ffordd fygythiol, ac un achos o achosi difrod troseddol i eiddo â gwerth llai 'na £5,000.
Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod pa mor anodd mae siarad yn agored am drais domestig.
Maen nhw’n annog pobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg i gysylltu gyda’r heddlu gan ddweud, “Nid chi sydd ar fai am yr hyn sy'n digwydd.”
Cafodd Mayberry ei ddedfrydu i 52 wythnos yn y carchar ac fe gafodd gorchymyn i dalu iawndal o £1,440.00 i'w gyn-bartner.
Mae hefyd wedi derbyn gorchymyn atal yn ei herbyn a'i theulu am gyfnod o dair blynedd.