Yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper eisiau mynd i'r afael â 'throseddau canol trefi' Cymru
Yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper eisiau mynd i'r afael â 'throseddau canol trefi' Cymru
Yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper yn ymweld a siop chwaraeon ar Heol Gorllewin y Bont-faen yng Nghaerdydd.
Mae troseddu mewn canol trefi fel dwyn o siopau a chamddefnydd beiciau trydan ymhlith y pethau mae hi eisiau mynd i'r afael a nhw.
"Across Wales, there's already a 20% increase in one year in the number of neighbourhood police back on the beat, particularly targeting our town centres.
"Town centre crime hasn't been taken seriously for far too long."
Dyw dwyn o'r siop lle mae hi'n gweithio ddim yn broblem fawr yn ol Martha Bowen ond mae hi'n gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y brifddinas.
"Mae e-bikes yn mynd o gwmpas yn gyflym ar y strydoedd.
"Mae bach o gyffuriau yn Llandaff Fields ac ati.
"Bydd yn gwella gyda mwy o heddlu o gwmpas.
"Bydd e'n cael gwared o'r bobl yna ac yn gwneud e'n saffach pan chi'n gyrru a cherdded o gwmpas.
"Mae pobl yn dod o gwmpas yn gyflym ar y beics."
Mae Treganna yng Nghaerdydd wedi bod yn rhan o gynllun peilot fydd yn gweld 3,000 o blismyn a swyddogion cymunedol ychwanegol ar ddyletswydd yng Nghymru a Lloegr dros y flwyddyn nesaf.
Fel rhan o'r Cytundeb Plismona Cymunedol bydd gan bob cymuned blismon penodol i ddelio gydag adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ym Mharc Fictoria y prynhawn 'ma, roedd croeso i hynny.
"Dyw e ddim yn teimlo'n bersonol pan chi'n ceisio rhoi tocyn ar gyfer yr heddlu ar-lein.
"Dyw e ddim yn amlwg y bydd yn dod 'nol atoch chi.
"Byddai rhoi wyneb iddynt yn teimlo fel bydd rhywbeth yn digwydd."
"O'n i yn y Splash Park ym Mhort Talbot gyda'r plant ddoe.
"Wnes i weld pobl ar e-bikes gyda balaclavas ynghanol Port Talbot.
"Doedd dim heddlu i'w gweld o gwbl."
Yn ol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys fe allai hi fod yn anodd cael plismon penodol fel cyswllt ar gyfer digwyddiad.
"Os ni'n meddwl am unigolyn yn cael ei enwi gyda dros 40,000 o droseddau'n cael eu recordio yn ardal Dyfed-Powys y llynedd, er enghraifft mae hynny'n golygu bod y pwysau gwaith yn uchel iawn i'r unigolyn lleol sy'n ymgysylltu gyda phobl y gymuned.
"Yn ymarferol, bydd e'n anodd.
"Ond mae'r nod o gael enw cyswllt o fewn tim plismona'r fro'n bwysig."
Mae plismona cymunedol wedi dioddef dros y blynyddoedd meddai Yvette Cooper, ond mae hi isie newid hynny trwy ddechrau sicrhau bod canol trefi yn llefydd mwy diogel i bawb.