‘Digwyddiad mawr’: Miloedd o gartrefi heb ddŵr yn y gogledd ddwyrain
Mae miloedd o gartrefi yng ngogledd-ddwyrain Cymru heb gyflenwad dŵr ar ôl i bibell ddŵr fyrstio.
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi "digwyddiad mawr" wedi i gartrefi mewn sawl tref a phentref yn Sir y Fflint golli eu cyflenwad dŵr.
Mae’r trafferthion wedi codi wedi i bibell ddŵr mawr fyrstio ym Mrychdyn, yn dilyn gwaith atgyweirio dros dro ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae’r ardaloedd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Y Fflint, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llannerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Cei Connah, Penarlâg, Mancot a Sandycroft.
Mae Dŵr Cymru wedi sefydlu gorsafoedd dŵr potel ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint, Safle Parcio a Theithio Shotwick ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a Maes Parcio Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug.
Mae’r cwmni dŵr yn dweud eu bod hefyd yn dosbarthu poteli dŵr i’r "cwsmeriaid mwyaf bregus", yn ogystal â chysylltu â thrigolion yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio drwy neges destun.
Mae Dŵr Cymru yn dweud bod gwaith atgyweirio yn parhau "ar frys".
Maen nhw'n gobeithio y bydd y cyflenwad dŵr i gartrefi yn cael ei ail-sefydlu ddydd Iau, ond nid oes sicrwydd pa bryd.
'Cymhleth'
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Hoffem ymddiheuro i'n cwsmeriaid sydd wedi profi problemau gyda'u cyflenwadau dŵr ac rydym yn deall eu rhwystredigaeth, yn enwedig y rhai a gafodd broblemau tebyg y penwythnos diwethaf.
"Yn anffodus, nid yw'r atgyweiriad dros dro wedi dal ac felly mae'n rhaid i ni weithredu'n gyflym i gynnal atgyweiriad brys cyn y gellid adfer y storfa lawn.
"Mae hyn yn gymhleth oherwydd bod y bibell wedi'i lleoli pum metr o dan y ddaear ac yn agos at geblau trydan tanddaearol a gwasanaethau eraill, sy'n gofyn am ofal ychwanegol.
"Rydym wedi gorfod gwneud yr atgyweiriad hwn yn gyflymach nag a gynlluniwyd, a hynny gyda lefelau is o storio mewn sawl un o'n cronfeydd dŵr gwasanaeth."
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae ein criwiau wedi gweithio ar yr atgyweiriad dros nos a bydd y gwaith atgyweirio yn parhau drwy gydol y dydd.
"Oherwydd maint y rhwydwaith, bydd yn cymryd peth amser i ni ail-lenwi'r system yn ddiogel, gan gynnwys y cronfeydd dŵr gwasanaeth, ac yn ei dro adfer cyflenwadau ond byddwn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid."