Billy Joel yn gwerthu ei feiciau modur o ganlyniad i salwch ar ei ymennydd

Billy Joel

Bydd beiciau modur y cerddor byd-enwog Billy Joel yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant wedi iddo gael diagnosis o salwch ar yr ymennydd yn gynharach y flwyddyn. 

Fis Mai fe gyhoeddodd y bydd yn gohirio ei holl gyngherddau yn y DU ac UDA ar ôl cael diagnosis o ‘Normal Pressure Hydrocephalus.’

Mae’r cyflwr yn achosi hylif i gronni yn yr ymennydd ac roedd hynny wedi “ei waethygu gan berfformiadau cyngerdd diweddar,” meddai mewn datganiad ar y pryd. 

Mae ei dîm bellach wedi cyhoeddi y bydd yn gwerthu ei gasgliad o feiciau modur yn “ddiweddarach yn y flwyddyn”. 

Mae’r beiciau modur yn cael eu cadw mewn siop yn nhref Oyster Bay yn Long Island, Efrog Newydd ar hyn o bryd ble mae modd i ymwelwyr eu gweld yn rhad ac am ddim ar benwythnosau. 

“Ni fydd ef yn adnewyddu’r les (‘lease’) ar siop beiciau 20th Century Cycles ar ôl iddo ddod i ben ar ddiwedd mis Medi,” meddai datganiad i’r asiantaeth newyddion AFP. 

Mae beiciau modur wedi bod yn rhan ganolog o’i ddelwedd yn ystod ei yrfa. 

Yn ystod fideo cerddoriaeth ar gyfer un o’i glasuron, mae’n tywys prif gymeriad yr 'Uptown Girl' i ffwrdd ar gefn ei feic modur. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.