13 o blant ac oedolyn wedi'u hanafu mewn ffair ym Mhorthcawl

Coney Beach.jpg

Mae 13 o blant ac un oedolyn wedi cael eu hanafu yn dilyn digwyddiad ar atyniad ym Mharc Pleser Traeth Coney ym Mhorthcawl nos Fercher.

Dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw wedi dioddef mân anafiadau wedi’r digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Roedd yn rhaid i rai ohonynt dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, meddai’r llu. 

Bydd y parc yn aros ar gau ddydd Iau wrth i swyddogion yr heddlu a swyddogion diogelwch barhau gyda’u hymchwiliadau. 

Mewn datganiad dywedodd Parc Pleser Traeth Coney mai digwyddiad i’w wneud ag atyniad trydydd parti oedd hwn. 

Mae llun a gafodd ei dynnu wedi'r digwyddiad i'w weld yn dangos rhan o atyniad y Wacky Worm wedi dod oddi ar y trac.

Dywedodd y parc nad yw'n berchen ar yr atyniad penodol yma. 

“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw aflonyddwch a byddwn yn darparu ad-daliadau i ymwelwyr a gafodd eu heffeithio cyn gynted â phosibl," meddai'r parc.

“Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ynglŷn ag ad-daliadau yn fuan. Diolch am eich cydweithrediad.” 

Fe wnaeth Heddlu’r De annog pobl i osgoi’r ardal nos Fercher fel bod modd i'r gwasanaethau brys cael mynediad yno. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.