Syr Keir Starmer yn croesawu Volodymyr Zelensky i Rif 10

Starmer yn croesawu Zelensky i Rif 10

Mae Syr Keir Starmer wedi croesawu Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky i Downing Street fore Iau.

Daw hyn ar drothwy cyfarfod rhwng Arlywydd UDA, Donald Trump ac Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn ddiweddarach yn yr wythnos. 

Mae'r cyfarfod rhwng y Prif Weinidog a Mr Zelensky yn dod wedi i Syr Keir ddweud fod y DU yn barod i "gynyddu'r pwysau" ar Rwsia os oes angen.

Yn y cyfamser, fe wnaeth Mr Trump fygwth Rwsia gydag "oblygiadau difrifol" pe bai cadoediad yn cael ei wrthod gan Mr Putin. 

Yn ystod galwad gyda Mr Trump a chynghreiriaid Ewropeaidd ddydd Mercher, fe wnaeth Syr Keir ganmol Arlywydd UDA am ei waith i gyflwyno cyfle "ymarferol" i ddod â'r rhyfel i ben.

Ond mae pryderon wedi cael eu codi am wahardd Mr Zelensky o’r cyfarfod rhwng Mr Trump a Mr Putin, a fydd yn digwydd yn Alaska ddydd Gwener. 

Wrth siarad ddydd Mercher, dywedodd Syr Keir: "Mae'r cyfarfod y mae'r Arlywydd Trump yn ei fynychu ddydd Gwener yn ofnadwy o bwysig."

Byddai sancsiynau pellach yn gallu cael eu gosod ar Rwsia os nad ydy'r Kremlin am gydweithredu, ac mae'r DU eisoes yn gweithio ar y pecyn nesaf o fesurau yn targedu Moscow yn ôl Syr Keir. 

"Mae’n bwysig atgoffa cydweithwyr ein bod ni’n barod hefyd i gynyddu’r pwysau ar Rwsia, yn enwedig yr economi, gyda sancsiynau a mesurau ehangach yn ôl yr angen.”

Mae Syr Keir ac arweinwyr Ewropeaidd wedi dweud dro ar ôl tro na ddylai trafodaethau am Wcráin ddigwydd heb gynrychiolaeth gan y wlad, wedi pryderon bod y wlad yn cael ei gwthio i’r ochr mewn trafodaethau am ei dyfodol ei hun.

Wrth gael ei holi os mai ei benderfyniad ef oedd peidio gwahodd Mr Zelensky i'r cyfarfod, dywedodd Mr Trump: "Na, i'r gwrthwyneb."

Ychwanegodd y gallai ail gyfarfod gydag Arlywydd Wcráin gael ei drefnu yn ddiweddarach.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.