Cyhuddo cynllwyniwr bom Arena Manceinion o geisio llofruddio ar ôl ymosodiad honedig
Mae cynllwyniwr bom Arena Manceinion, Hashem Abedi, yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio ar ôl ymosodiad honedig ar bedwar swyddog carchar.
Mae Abedi - sydd wedi ei garcharu am oes am gynorthwyo ei frawd, Salman Abedi, yn yr ymosodiad ym Manceinion yn 2017 - wedi’i gyhuddo yn dilyn ymosodiad honedig yn HMP Frankland ar 11 Ebrill.
Mae’n wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio, un cyhuddiad o achosi gwir niwed corfforol ac un cyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant heb awdurdod.
Fe fydd Abedi, 28 oed, yn ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan ar 18 Medi.
Fe gafodd ei symud o HMP Frankland yn dilyn yr ymosodiad honedig.
Fe gafodd tri swyddog eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi’r digwyddiad.