'Hanfodol': Cronfa newydd i ddatblygu cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru

Fideos cerddoriaeth

Mae cronfa newydd wedi ei lansio er mwyn cynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru. 

Cafodd y gronfa ei chreu gan gwmni PYST, sef gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo ar gyfer labeli annibynnol yng Nghymru. 

Mae'r cwmni yn hyrwyddo a dosbarthu recordiau gan dros 75 label annibynnol yn y wlad ac yn casglu ac yn dosbarthu eu hincwm ffrydio. 

Yn ôl PYST, bwriad y gronfa beilot newydd ydi cefnogi sefydliadau nad oes cyfleoedd ariannu amlwg ar eu cyfer oherwydd eu maint a’u natur.

Dywedodd y cwmni, a gafodd ei sefydlu yn 2018, y bydd y gronfa yn cefnogi nifer o weithgareddau yn y diwydiant cerddoriaeth.

Maen nhw'n cynnwys recordio a hyrwyddo recordiau, ffilmio rhaglenni dogfen a fideos cerddorol, ac ysgrifennu blogiau a chylchgronau.

Bydd y gronfa hefyd yn helpu i ddarparu gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio.

'Asgwrn cefn y diwydiant'

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST: "Y sefydliadau yma – labeli ac eraill – yw asgwrn cefn gweithgaredd cerddoriaeth yng Nghymru, ac mae ‘na fwlch o fewn cyfleoedd ariannu ar gyfer y math yma o weithgareddau wedi bodoli hyd yma. 

"Gyda chefnogaeth newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, gallwn beilota’r gronfa hon a dysgu mwy am sut gallwn gydweithio’n well er mwyn cynnal yr ecosystem gefnogol yma."

Ychwanegodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant: "Mae’r gefnogaeth arbenigol yma yn hanfodol i’r gwneuthurwyr creadigol sydd yn gweithio’n ddiflino ar draws pob agwedd o ddiwydiant cerddoriaeth Cymru. 

"Drwy gefnogi gweithgareddau creu cynnwys, rhwydweithio a marchnata, rydw i’n obeithiol y byddwn yn gallu helpu datblygu’r diwydiant ymhellach a chryfhau talent cerddoriaeth llawer gwlad yma yng Nghymru."

Cyfanswm y gronfa ydi £75,000 ac mae sefydliadau yn gallu ymgeisio am hyd at £5,000 yr un. 

Gall sefydliadau gyflwyno cais am gyllid rhwng 13 Awst a 3 Medi, gyda gweithgaredd o bob iaith yn cael ei ystyried. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.