Arweinydd Cyngor Sir Penfro i sefyll i lawr ym mis Mai
Mae arweinydd Cyngor Sir Penfro, Jon Harvey, wedi cadarnhau y bydd yn ildio'r awenau ac na fydd yn cynnig ei enw fel arweinydd ym mis Mai.
Mae'r Cynghorydd Harvey wedi arwain y cyngor ers i'w ragflaenydd, y Cynghorydd David Simpson, gamu i lawr ym mis Mai 2024 ar ôl saith mlynedd yn y swydd.
Mae wedi arwain cabinet sydd yn cynnwys cynghorwyr Llafur, Democratiaid Rhyddrydol, Plaid a chynghorwyr heb ymrwymiad i unrhyw grŵp.
Fe fydd cynghorwyr yn cwrdd ar Fai 15fed i ethol arweinydd newydd.
Mae’r enwebiadau canlynol ar gyfer arweinydd wedi’u derbyn:
- Y Cynghorydd Di Clements,
- Y Cynghorydd Tessa Hodgson
- Y Cynghorydd Anji Tinley