'Dim jyst be sydd ar bapur': Cyngor i ddisgyblion ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch
Mae cynghorydd gyrfa wedi annog disgyblion sy'n derbyn canlyniadau Safon Uwch i gael cyngor arbenigol er mwyn ystyried yr holl opsiynau ar gyfer y bennod nesaf.
Mae disgyblion mewn ysgolion a cholegau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau.
Bydd y graddau yma yn eu helpu i benderfynu ar eu camau nesaf – boed hynny'n astudio yn y brifysgol, dechrau prentisiaeth neu'n cael swydd.
Dywedodd Catrin Owen o Gyrfa Cymru ei bod yn bwysig i ddisgyblion i beidio â chynhyrfu a rhuthro i wneud penderfyniad.
"Jyst cymrwch amser rŵan i feddwl: Reit, be' alla i neud efo’r canlyniadau dw i wedi gael?" meddai wrth Newyddion S4C.
"Os dydyn nhw ddim be' oedda chi’n disgwyl, yn aml iawn mae 'na dal opsiynau allan yna ac ella rhai 'da chi erioed wedi meddwl amdanyn nhw o’r blaen.
"Felly, mi fyswn i wastad yn dweud i siarad efo cynghorydd gyrfa, rhywun fel fi fydd yna heddiw ar ddiwrnod canlyniadau i siarad efo chi un ar un."
Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru ers dros ddegawd.
Gall ei gynghorwyr roi cyngor am ddim i ddisgyblion yn dilyn eu cyfnod yn yr ysgol neu'r coleg.
'Dim jyst be sydd ar bapur'
Fe aeth Catrin ymlaen i ddweud ei bod yn hanfodol i ddisgyblion i ystyried yr opsiynau sy'n addas iddyn nhw.
"Mae pawb yn unigolyn ar ddiwedd y dydd ac mae’n bwysig cofio hynna – rwyt ti'n unigolyn sydd efo penderfyniad mawr i neud am dy gamau nesa, ac mae’n rili pwysig i ddod i nabod chdi dy hun yn yr amser yma," meddai.
"Dydi o ddim jyst be' sydd i lawr ar bapur, mae o am chdi fel unigolyn: y ffordd wyt ti orau’n dysgu wbath, be' ti isho neud wedyn.
"Does 'na’m rhaid penderfynu ar gynllun dy yrfa di gyd, ond mae’r camau nesa 'na yn mynd i effeithio be' bynnag ti’n dewis neud wedyn.
"Felly, mae’n bwysig gwneud y dewis gorau i chdi fel unigolyn, i edrych ar dy hun, i edrych ar dy nodau di mewn bywyd, be' sy’n bwysig i chdi, be' ydi sy sgiliau di, sut wyt ti’n licio dysgu, ac edrych ar yr holl opsiynau allan yna efo cynghorydd gyrfa ac allwn ni helpu chdi i roi cynllun yn ei le."
Yn ôl Catrin, mae cael cyngor gan arbenigwr diduedd yn gallu bod yn fuddiol yn sgil pwysau gan deulu a ffrindiau.
"Weithia mae’n haws siarad efo rhywun ti heb gyfarfod o’r blaen, rhywun sy' ddim yn nabod chdi fel bod nhw’n gallu bod yn ddiduedd," meddai.
"Dyda ni’m yn gweithio i unrhyw brifysgol, i unrhyw le gwaith neu brentisiaeth – 'da ni yma i siarad a gwrando arna chdi fel unigolyn – i helpu chdi rhoi’r drych mawr 'na o flaen dy wyneb a gweld be' di’r camau gorau alli di gymryd nesa efo'r canlyniadau 'na i helpu dy ddyfodol."
Mae'r graddau uchaf ar gyfer canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Roedd canran y graddau A* ac A yn 29.5% eleni, sef gostyngiad bach o gymharu â 29.9% yn 2024, a gostyngiad o bron i 5% o gymharu â 2023 (34%).
Er y gostyngiad, mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn cyfnod pandemig Covid-19, pan roedd canran y graddau A-A* yn 26.5%.