Gwynedd: Dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn o ardal Bethel
Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn o ardal Bethel yng Ngwynedd oedd ar goll.
Ers 20.30 ddydd Mawrth, mae Heddlu'r Gogledd wedi bod yn chwilio am ddyn 25 oed o'r enw Stephen Hughes.
Mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau fod corff wedi ei godi o Afon Menai toc wedi 23.30 y noson honno.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall: "Mae fy meddyliau efo teulu Stephen, sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion.
"Mae’r crwner wedi cael gwybod ac nid ydym yn credu bod amgylchiadau amheus."