Cyhuddo dyn 25 oed o geisio llofruddio ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau

Heddlu

Mae dyn 25 oed wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i ddyn 26 oed ddioddef anafiadau mewn digwyddiad yn oriau man y bore ym Merthyr Tudful.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal Gurnos tua 01.05 ar fore Sul 10 Awst, wedi adroddiad bod dyn wedi ei anafu.

Mae Rhys Mews, o Gurnos, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ac yn parhau yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn y llys.

Mae dyn arall 26 oed o Ferthyr wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac yn parhau yn nalfa'r heddlu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.