Dyn o Sir Ddinbych yn gwadu twyll ar ôl 'colli rheolaeth' ar ei gar trydan ar draffordd
Mae dyn o Brestatyn, Sir Ddinbych wedi gwadu dau achos o dwyll, achosi niwsans a gyrru'n beryglus mewn car trydan ar draffordd fis Mawrth y llynedd.
Mae Nathan Owen, 32 oed yn honni fod nam ar frêcs ei gar Jaguar I-PACE oedd yn werth £80,000, ac iddo golli rheolaeth ar y cerbyd ar y draffordd rhwng Lerpwl a Manceinion.
Ar ran yr erlyniad yn Llys Ynadon Lerpwl fore Mercher, dywedodd Renee Southern wrth y llys fod Mr Owen wedi honni "sawl tro ac yn anonest" fod nam ar y cerbyd trydan.
Ychwanegodd ei fod eisiau "cael gwared â'r cerbyd" er mwyn "osgoi taliadau pellach" a oedd yn gyfanswm o £4,426 i gwmni ariannol.
Ar ôl iddo ffonio 999, brysiodd unedau plismona ffyrdd i geisio cynorthwyo Mr Owen yn y cerbyd wrth iddo gyrraedd cyflymder o hyd at 100mya ar draffyrdd yr M58/M57 a'r M62.
Fe wnaeth Heddlu Glannau Mersi a Manceinion amgylchynu'r Jaguar am 35 munud cyn i'r cerbyd gael ei stopio o’r diwedd.
Clywodd y llys fod y draffordd wedi gorfod cael ei chau ac i hynny achosi oedi sylweddol yn yr ardal.
Yn flaenorol, dywedodd y diffynydd ei fod wedi ei gaethiwo y tu mewn i'r cerbyd a'i fod methu dianc oherwydd nam trydanol.
Ychwanegodd ei fod ar ei ffordd adref o'r gwaith ar ddiwrnod cyntaf ei swydd fel gweithiwr cymorth plant.
Dywedodd ei fod yn ofni y byddai'n marw neu'n lladd rhywun arall yn ystod y daith.
Cafodd Nathan Owen ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl ar 10 Medi, lle mae disgwyl iddo gyflwyno'i ble yn ffurfiol.