Llwyddiant i Abertawe, Wrecsam a Chaerdydd yn rownd gyntaf Cwpan yr EFL

Wrecsam

Roedd hi'n noson dda i glybiau pêl-droed Abertawe, Wrecsam a Chaerdydd yn rownd gyntaf Cwpan yr EFL nos Fawrth. 

Fe enillodd Wrecsam, a ddechreuodd eu hymgyrch yn Y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn, ar giciau o'r smotyn yn erbyn Hull ar y Cae Ras, wedi gêm gyfartal 3-3 ar ôl 90 munud. 

Ennill o 2-1 oedd hanes Caerdydd hefyd, gan sefyll yn gadarn yn erbyn clwb Swindon Town a chyrraedd yr ail rownd. 

Fe wnaeth goliau gan Ronald, Bobby Wales ac Ethan Galbraith sicrhau'r fuddugoliaeth i Abertawe o 3-1 yn erbyn Crawley Town, oedd i lawr i 10 dyn. 

Ond colli oedd hanes Casnewydd o 0-1 yn erbyn Millwall, gan olygu eu bod nhw allan o'r gwpan yn y rownd gyntaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.