Cynghori'r heddlu i ddatgelu cefndir ethnig pobl dan amheuaeth

Heddlu Dyfed-Powys

Mae lluoedd yr heddlu wedi cael eu cynghori i ddatgelu cefndir ethnig a chenedligrwydd pobl syn cael eu hamau o drosedd mewn rhai achosion.

Daw'r  canllawiau dros dro gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) a'r Coleg Plismona wedi pwysau cynyddol ar yr heddlu a'r ffordd y maen nhw'n adrodd gwybodaeth. 

Mae lluoedd yn cael eu hannog i ystyried datgelu manylion ychwanegol am bobl sydd wedi eu cyhuddo mewn ymchwiliadau o bwys neu sensitif, yn ôl y canllawiau newydd. 

Ond fe fydd penderfyniadau ynghylch a ddylid rhyddhau gwybodaeth o'r fath yn parhau gyda'r lluoedd eu hunain yn ôl yr NPCC. 

Y gobaith ydy y bydd y newid yn gallu mynd i'r afael â gwybodaeth ffug yn lledaenu ar gyfryngau cymdeithasol. 

Anhrefn

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Sam de Reya, arweinydd cyfathrebu a chyfryngau yr NPCC: "Fe wnaethom ni weld yn ystod anhrefn yr haf y llynedd yn ogystal â sawl achos proffil uchel diweddar beth ydy'r oblygiadau sylweddol pan mae gwybodaeth gan yr heddlu yn cael ei rhyddhau i'r cyhoedd.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau fod ein prosesau yn briodol mewn oes o ddyfalu ar gyfryngau cymdeithasol a phan mae gwybodaeth yn gallu teithio yn ofnadwy o gyflym ar draws sawl platfform."

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth Heddlu Sir Warwick a'r comisiynydd trosedd Philip Seccombe roei pwysau ar yr Ysgrifennydd Cartref am ddiweddariad brys ar ôl cyhuddo dau ddyn oedd yn honedig yn geiswyr lloches o Affghanistan. 

Fe wnaeth arwain at honiadau fod y llu wedi methu â datgelu gwybodaeth am eu statws mewnfudo. 

Dywedodd Emily Spurrell o Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd: "Dwi'n falch fod yr NPCC a'r Coleg Plismona wedi cydnabod yr angen i ddiweddaru cyngor ar gyfer lluoedd yn sgil sawl achos proffil uchel yn ddiweddar. 

"Rydym ni wedi gweld y cyflymyder y gall gwybodaeth anghywir ledaenu ar-lein a'r perygl i ddiogelwch cyhoeddus yn sgil hyn, felly mae hi ond yn iawn fod yr heddlu yn datgelu yr hyn sydd angen i'r cyhoedd wybod, tra hefyd yn parchu hawl person i achos teg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.