Dros 50,000 o fudwyr wedi croesi'r sianel ers i'r blaid Lafur ddod i rym
Mae nifer y mudwyr sydd wedi croesi'r Sianel rhwng Ffrainc a Lloegr mewn cychod bychain wedi cyrraedd dros 50,000 ers i'r Blaid Lafur ddod i rym yr haf diwethaf.
Mae data newydd gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod 50,271 o bobl wedi gwneud y daith o Ffrainc, a bod 474 o fudwyr wedi croesi ddydd Llun yn unig.
Gan gyfeirio at y ffigurau, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan, Bridget Phillipson, y bydd y llywodraeth yn "troi hyn ar ei ben", gan ychwanegu ei bod yn gwerthfawrogi "y rhwystredigaethau mae pobl yn eu teimlo".
Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn San Steffan, Kemi Badenoch, fod y ffigwr yn dangos mai "dim ond slogan yn unig oedd cynllun Llafur i atal gangiau rhan cludo pobl yn anghyfreithlon".
Yn ôl y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Mudo (IOM), mae o leiaf 20 o bobl wedi marw eleni wrth geisio croesi'r Sianel.
Daw'r ffigurau diweddaraf wrth i weinidogion barhau i geisio mynd i'r afael â gangiau sy'n smyglo pobl - a oedd yn un o addewidion allweddol Syr Keir Starmer pan ddaeth yn brif weinidog.