
'Maen nhw’n ein pryfocio o hyd heb unrhyw reswm': Adroddiad arbennig o'r Lan Orllewinol
'Maen nhw’n ein pryfocio o hyd heb unrhyw reswm': Adroddiad arbennig o'r Lan Orllewinol
Mae'r newyddiadurwyr Gwyn Loader a Liam Evans ar y Lan Orllewinol yn gwneud cyfres o adroddiadau arbennig ar gyfer Newyddion S4C.
Yng ngwres tanbaid canol dydd, mae criw o weithwyr Palesteinaidd yn bwrw at eu gwaith.
Mae’n 41 gradd celsiws yn y rhan yma o’r Lan Orllewinol a’r dynion yn hollti creigiau cyn eu gosod nhw mewn wal newydd.
Diogelu eu pentref, al-Mughayyir, yw’r nod, medden nhw, wedi cyfres o ymosodiadau gan setlwyr Israelaidd.
Yn ôl maer y pentref, Ameen Abu Aliyah, mae setliadau newydd wedi eu codi ers i ni ymweld ddiwethaf ym mis Hydref y llynedd.
'Pryfocio o hyd'
Mae e’n honni bod ymosodiadau gan setlwyr yn digwydd yn amlach erbyn hyn:
“Mae pethau wedi gwaethygu. Mae setliadau newydd yn yr ardal. Mae’r setlwyr yn ymosod ar y bobl yn fwy rheolaidd.”
“Maen nhw’n ein pryfocio o hyd heb unrhyw reswm - yn dod i’n tiroedd ni a’n poeni ni.”
Ymysg rhyw 3,500 o bobl y pentref, ry’n ni’n cwrdd â Yakoub Nassan. Yn 19 oed, mae e angen help ffrâm i gerdded.
Ar ochr dde ei wddf, mae ei groen wedi crychu’n graith hyll.

Ar 13 Ebrill eleni, mae’n dweud i setlwyr Israelaidd ei saethu e tra’i fod e yn angladd ei ffrind.
Aeth y fwled drwy ei wddf a mas o’i gorff drwy ei gefn, meddai, gan anafu ei asgwrn cefn hefyd.
Mae’n dweud i ddegau o bobl eraill gael eu hanafu yn yr ymosodiad ac i un person arall gael ei ladd.
“Rwy’n diolch i Dduw fy mod i dal yn fyw” dywed Yakoub.
Y gyfraith
Dial oedd y setlwyr meddai, wedi i berson yn ei arddegau Iddewig o’u cymuned nhw gael ei ddarganfod yn farw.
Honni mae Palesteiniaid al-Mughayyir, i Benjamin Alchimer, oedd yn 14 oed, farw ar ôl cael ei frathu gan neidr. Ond fe ddywedodd yr IDF, Shin Bet, a heddlu Israel mewn datganiad ar y cyd i’r bachgen ifanc farw o ganlyniad i gael ei guro gan “derfysgwyr Palesteinaidd”. Ni ryddhawyd manylion pellach am ei farwolaeth.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â’r heddlu Israelaidd i ofyn a gafodd unrhyw un eu harestio a’u herlyn wedi’r ymosodiad ar Yakoub Nassan. Hyd yma, does neb wedi ymateb i’r cais.
Yn ôl cyfraith ryngwladol, mae setliadau Israelaidd ar y Lan Orllewinol yn anghyfreithlon. Dyw Llywodraeth Israel ddim yn derbyn hynny.

Mewn pleidlais symbolaidd yn y Knesset (senedd Israel) ar 23 Gorffennaf, fe bleidleisiodd mwyafrif sylweddol o blaid ehangu sofraniaeth Israel yn y Lan Orllewinol.
Mae rhyw 3 miliwn o Balestiniaid yn byw yno a thua 700,000 o setlwyr Israelaidd yn byw yn y Lan Orllewinol a Dwyrain Jerwsalem.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae ymosodiadau ar Balestiniaid gan setlwyr Israelaidd yn cynyddu ac yn gwaethygu.
Mae swyddfa OCHA y mudiad rhyngwladol yn amcangyfrif bod pedwar ymosodiad bob dydd gan setlwyr Israelaidd ar Balestiniaid.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd hi’n cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd fis nesaf os na fydd cadoediad yn Gaza.
Yn ymarferol, byddai creu gwladwriaeth yn anodd. Mae tiriogaethau Palesteinaidd wedi eu rhannu rhwng Llain Gaza a’r Lan Orllewinol a Dwyrain Jerwsalem. Does dim prifddinas swyddogol ganddi chwaith. Er hynny, mae 147 o 193 aelod y Cenhedloedd Unedig eisoes yn cydnabod ei bodolaeth.

'Israel wedi brwydro'
Gwrthod y syniad yn llwyr mae gwleidyddion dylanwadol yma yn Israel.
Wedi i Awstralia gyhoeddi ei bwriad i gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd ddydd Llun, dywedodd Arlywydd Israel, Isaac Herzog bod hynny’n “gamgymeriad difrifol sydd yn gwobrwyo terfysgaeth.”
“Mae Israel wedi brwydro, wastad wedi brwydro, dros heddwch gyda’n cymdogion, gan gynnwys y Palestiniaid” meddai.
“Mae’r datganiadau yma…yn gwobrwyo gelynion rhyddid a democratiaeth.”
“Mae’n gamgymeriad difrifol a pheryglus, fydd ddim yn helpu Palestiniaid, ac yn anffodus, ddim yn dod ag unrhyw un o’r gwystlon nôl.”