
Colin Jackson: ‘Anhwylderau bwyta nath arwain at fy ymddeoliad’
Colin Jackson: ‘Anhwylderau bwyta nath arwain at fy ymddeoliad’
Mae'r cyn-athletwr Olympaidd Colin Jackson wedi dweud mai byw gydag anhwylderau bwyta yn ystod ei yrfa wnaeth arwain at ei ymddeoliad fel athletwr proffesiynol.
Mae Jackson yn credu y gall llwyddiant ym myd chwaraeon yn aml guddio'r “effeithiau corfforol a meddyliol” sy’n deillio o gystadlu ar y lefel uchaf.
Wrth rannu ei brofiad o ddioddef o'r cyflyrau bulimia, dismorffia’r corff a gor-bryder mae’n annog dynion eraill i siarad am eu hiechyd meddwl.
Tra’n cydnabod bod mwy i’w wneud ma’ Chwaraeon Cymru wedi dysgu o brofiadau athletwyr blaenorol.

Yn bencampwr Ewropeaidd, y Gymanwlad a’r byd roedd Colin Jackson yn cael ei gydnabod fel un o’r goreuon yn ei gamp.
“O fewn athletau a chwaraeon gall eich llwyddiant gael ei ddathlu heb i bobl ddeall y daith rydych chi wedi'i chymryd i gyrraedd yno yn gorfforol ac yn feddyliol.
“Pan oedd gennyf yr holl anhwylderau bwyta roedd hynny'n gysylltiedig, ac wrth ddelio â hynny a bod yn bencampwr, dyna nath arwain yn y diwedd at fy ymddeoliad a fy ngor-bryder.”
Ers ei ymddeoliad ym 2003, mae'n dweud ei fod wedi gorfod dysgu i fyw gyda gor-bryder.
“‘Da chi byth yn cael gwared â gor bryder, dysgu i fyw gyda fe i chi’n 'neud.
“Ond dwi ond wedi dysgu i wneud hynny drwy gael help a siarad ag eraill am fy mhrofiad.”
Trwy rannu ei brofiadau ei hun a bod yn rhan o ymgyrch SPARk mae'n gobeithio annog dynion o bob oed i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl.

Yn cystadlu gyda'u clwb athletau lleol Harriers Caerfyrddin, mae Cole, Kaylan a Tygan yn credu bod iechyd meddwl yr un mor bwysig â iechyd corfforol.
“Ma’ llawer mwy o bwyslais ar iechyd meddwl, ma' gyda fi arholiadau a gwaith cwrs ar hyn o bryd felly ma’ athletau wir yn helpu i dynnu’r pwysau oddi ar y gwaith yna, a rhoi’r cyfle gwerthfawr yna i drafod gyda ffrindiau,” meddai Cole.
Wrth ddychwelyd o anaf i’w linyn y gar ma’ Tygan hefyd yn credu fod iechyd corfforol a meddyliol yn mynd law yn llaw.
“Heb allu ymarfer ma’ lot mwy o straen ac ma’n galed dod yn ôl hefyd a’r poen meddwl eich bod chi’n gallu cael anaf arall.”
“Dwi wedi rhoi gormod o bwysau ar yn hunan yn y gorffennol, ond mae’n bwysig wrth gystadlu i beidio rhoi gormod o bwyslais ar eich hunan,” eglura Kaylan.
‘Siarad yn achub bywydau’
Yn ôl yr elusen Mental Health Matters Wales mae’n “anodd cael dynion i siarad”.
“Ma’ llawer yn teimlo pwysau i deimlo'n gryf a chadw popeth i’w hunan ond gall hynny yn y pendraw arwain at argyfwng,” meddai Nia Jones o’r elusen.
“Nid gwendid yw siarad, mae'n gryfder a gall achub bywydau.”
‘Mwy i’w wneud’
Tra bod “gwersi wedi’u dysgu” ma’ Chwaraeon Cymru yn cydnabod fod mwy i’w wneud o hyd.
“Rydyn ni wedi sylweddoli, trwy brofiadau drwg rhai athletwyr, nad oedd digon o sylw yn cael ei roi i'w iechyd meddwl yn ogystal â'u hiechyd corfforol yn y gorffennol.
“Ac rydyn ni'n rhoi pethau mewn lle i gywiro hynny gan weithio i gael y cydbwysedd cywir rhwng iechyd meddwl a chorfforol.
“Ond ma’ na waith i'w wneud o hyd.”