Dynes wedi ei chyhuddo o drywanu dyn yng nghanol Caernarfon

Llun: Google
Stryd Llyn Caernarfon
Mae dynes o Gaernarfon wedi ei chadw yn y ddalfa ar ôl cael ei chyhuddo o drywanu dyn ynghanol y dref ddydd Iau diwethaf. 
 
Mae Kimberley Evans o Blas Twthill, wedi ei chyhuddo o anafu Arwel Wyn Jones yn fwriadol ar Stryd Llyn. 
 
Clywodd y llys yn Llandudno ei bod hi yn adnabod Mr Jones. 
 
Ni chyflwynwyd cais am fechnïaeth, a chafodd ei chadw yn y ddalfa gan y Barnwr Gwyn Jones tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 8 Medi.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.